Main content

Am y Corws

Dewch i wybod popeth ynghylch Corws Cenedlaethol Cymreig y 主播大秀

Cysylltu

Corws Cenedlaethol Cymreig y 主播大秀 yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y 主播大秀 yn ei throedio hi dan ganu drwy gytganau gwefreiddiol, caneuon llon a gwau gwrthbwynt
The Times


Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y 主播大秀 ym Mae Caerdydd, mae’r corws, a ffurfiwyd yn 1983, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 主播大秀, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.


Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys taith chwe-diwrnod i Rennes ar gyfer pedwar perfformiad o Requiem Mozart gyda’r Orchestre Symphonie de Bretagne, perfformiad o Ddioddefaint Sant Mathew gan Bach gyda Harry Bicket a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y 主播大秀; gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze, Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann ac Wythfed Symffoni Mahler dan y cyn Brif Arweinydd Thomas Søndergård.


Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Requiem Fauré a’r O sacrum convivium gan Messiaen o dan Ludovic Morlot, Offeren ‘Nelson’ Haydn o dan arweiniad Christian Curnyn ac Elegiac Ode a Te Deum gan Standord gydag Adrian Partington wrth y llyw.


Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes ac yn 2016 rhoddodd yr ail berfformiad i’w gynnal erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y première. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.


Gellir clywed y corws ar 主播大秀 Radio 3, 主播大秀 Radio Wales a 主播大秀 Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep 主播大秀 Cymru.

Pwy ydi pwy

  • Adrian Partington, Cyfarwyddwr Artistig

Mae Adrian yn cyfarwyddo’r Corws ers 1999. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda llawer o’r corau enwocaf yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys y Philharmonia, y 主播大秀 Symphony Chorus a’r London Bach Choir.

  • Christopher Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Mae Christopher yn cyfeilio i’r Corws ers 2000 ac yn 2014 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol. Mae’n canu’r piano cerddorfaol gyda’r Gerddorfa, Opera Cenedlaethol Cymru a cherddorfeydd eraill yn Ewrop. Recordiodd yn eang gyda’r 主播大秀 ac fel unawdydd i Chandos.

Sut i geisio

I wneud cais am glyweliad gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y 主播大秀 anfonwch e-bost atom gyda’ch enw a’ch manylion cysylltu, a manylion y gerddoriaeth yr hoffech ei chanu mewn clyweliad.