Ö÷²¥´óÐã

8 Medi 2024, Neuadd Hoddinott y Ö÷²¥´óÐã, Caerdydd

Ö÷²¥´óÐã NOW 2024-25 Season Sŵn a Sbri

Ö÷²¥´óÐã National Orchestra of Wales
Sŵn a Sbri
15:00 Sul 8 Medi 2024 Ö÷²¥´óÐã Hoddinott Hall, Cardiff
Pa ffordd well o lansio ein tymor yn Neuadd Hoddinott am 2024-25 na dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd newydd, Jaime Martín. Gan agor gyda ‘diolch’ cerddorol Brahms – mae Academic Festival Overture.
Pa ffordd well o lansio ein tymor yn Neuadd Hoddinott am 2024-25 na dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd newydd, Jaime Martín. Gan agor gyda ‘diolch’ cerddorol Brahms – mae Academic Festival Overture.

TELYNEGOL | RHAGOROL | DYRCHAFOL

Pa ffordd well o lansio ein tymor yn Neuadd Hoddinott am 2024-25 na dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd newydd, Jaime Martín. Gan agor gyda ‘diolch’ cerddorol Brahms – mae Academic Festival Overture yn cyfuno caneuon traddodiadol myfyrwyr gyda threfniant cerddorfaol a deinameg medrus a hynod i arddangos telynegiaeth ysgubol, bywiogrwydd doniol a theimlad anhygoel o hwyl.

Hefyd, un nad oedd byth yn brin o syniadau creadigol oedd Tchaikovsky a ysgrifennodd ei Goncerto i’r Ffidil mewn dim ond pythefnos fer o amser, yn rhyfeddol iawn. Gyda hud anochel a disgleirdeb cyffrous yn cydblethu i greu symlrwydd swynol, coronir y cyfan gan fedrusrwydd cyffelyb i arddangosfa tân gwyllt gan yr unawd ffidil, a berfformir yma gan y godidog Nemanja Radulović. Nid yw cyffyrddiad o aeddfedrwydd Dvořák byth yn fwy amlwg nag yn ei Chweched Symffoni, gyda thelynegiaeth ddi-ben-draw, mynegiant cynnes ac ysbryd Bohemaidd tanllyd byth ymhell o’i gyrraedd.