Rhaglen
- Le tombeau de Couperin
- Glasslands
- Overture No. 2
- Symphony No 9 in E flat major
Perfformwyr
- Christoph KönigArweinydd
- Jess GillamSacsoffon
CHWAREUS | CYFAREDDOL | EPIG
Yn 2025 bydd hi’n 50 mlynedd ers marwolaeth Shostakovich, felly i ddathlu ei fywyd, rydyn ni’n mynd â’i Nawfed Symffoni gyffrous i Aberystwyth a Bangor ym mis Mawrth. Ar raddfa fach, ond yn llawn hiwmor, roedd y symffoni hon yn syndod i bawb pan berfformiwyd hi gyntaf, gyda’i chyffyrddiadau o slapstic, themâu bywiog a naws hwyliog tebyg i ddawns.
Mae’r seren sacsoffon, Jess Gillam, yn ymuno â ni ar gyfer Grasslands gan Anna Clyne, gan gyfleu byd dychmygol sy’n cael ei reoli gan fwgan, ac rydyn ni’n archwilio Ail Agorawd Louise Farrenc. Yn cael ei hystyried yn un o gerddorion benywaidd mwyaf blaenllaw ei chyfnod, mae’r agorawd hyfryd hon yn datblygu cymeriad emosiynol tywyll gyda themâu a rhythmau wedi’u plethu’n eang ac yn fedrus, ochr yn ochr â’r telynegol ysgafn. Ond yn gyntaf, Le Tombeau de Couperin gan Ravel – teyrnged nid yn unig i’r cyfansoddwr François Couperin, ond i gerddoriaeth Ffrengig y 18fed ganrif. Mae trefniant cerddorfaol croyw a rhythmau treiddgar yn cyd-fynd â throadau melodaidd a harmonig mewn gwaith a fu’n eiconig i wrandawyr ers genedlaethau.