Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Hogiau'r Band of Hope

Sgyrsiau amrywiol yn cynnwys William Owen Roberts yn trafod Hogiau'r Band of Hope. William Owen Roberts discusses his play about David Lloyd George having tea with Hitler.

Yng nghanol yr holl sylw i'r ffaith ei bod hi'n ganrif ers i David Lloyd George ddod yn brif weinidog, fe ddarlledodd Radio Cymru ddrama newydd amdano. Mae William Owen Roberts yn ymuno 芒 Dei i drafod Hogiau'r Band of Hope, ei ddrama am Lloyd George yn cael te gyda Hitler yn 1936.

Un arall a ddaeth i gysylltiad 芒 Hitler oedd y newyddiadurwr Gareth Jones. Yn Gymro o'r Barri, daeth i adnabod rhai o arweinwyr pwysica'r byd, ond cafodd ei gipio a'i ladd ychydig ddyddiau cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn 30 oed. A oedd o'n gwybod gormod, tybed? Gareth Vaughan Williams, yr hanesydd o Wrecsam, sy'n s么n am ei hen ewythr.

Lolian ydi teitl dyddiadur Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa. Mae'n cwmpasu gwerth hanner canrif o straeon, j么cs, sylwadau ac argraffiadau, ond pam ildio a chyhoeddi wedi'r holl flynyddoedd?

Menywod Caerfyrddin ydi pwnc y Parchedig Mary Thorley, ac mae'r Athro Tudur Hallam yn siarad o Texas wedi iddo ennill ysgoloriaeth gan Gomisiwn Fulbright.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 13 Rhag 2016 18:00

Darllediadau

  • Sul 11 Rhag 2016 17:30
  • Maw 13 Rhag 2016 18:00

Podlediad