Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Hefin Robinson

Sgyrsiau amrywiol yn cynnwys enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2016, Hefin Robinson. Guests include the winner of the Drama Medal at the 2016 National Eisteddfod.

Ychydig fisoedd wedi ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, mae Hefin Robinson yn ymuno 芒 Dei am sgwrs. Roedd y tri beirniad yn gwbl gyt没n mai Estron oedd y ddrama lwyfan gyda'r addewid mwyaf, a daeth y llwyddiant hwnnw i ran Hefin wedi dwy flynedd o ddod yn agos iawn at gyrraedd y brig yn yr un gystadleuaeth. Daeth yn drydydd yn 2014, ac yn ail yn 2015.

Cerddi John Ellis Lewis, Moeldrehaearn, sy'n cael sylw Dafydd Morgan Lewis. Yn ddiweddar, golygodd gyfrol o waith y bardd o gefn gwlad Maldwyn a oedd wrth ei fodd yn sgwennu am droeon trwstan rhai o'r cymeriadau lleol.

Sgwrs hefyd am Mair Richards, Darowen, gyda'r Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 20 Rhag 2016 18:00

Darllediadau

  • Sul 18 Rhag 2016 17:30
  • Maw 20 Rhag 2016 18:00

Podlediad