Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Hawliau Menywod ac Esgob Tyddewi

John Roberts yn trafod gorymdeithiau hawliau menywod a chysegru Esgob Tyddewi. Discussions of the Women's March and the consecration of the Church in Wales's first female bishop.

Ddiwrnod wedi cyfres o orymdeithiau ar draws y byd i gefnogi hawliau menywod, mae dwy o'r rhai a fu'n gorymdeithio yn ymuno 芒 John Roberts i drafod. Roedd Shan Ashton ym Mangor, wrth i Ann Griffith gynorthwyo i drefnu'r digwyddiad yn Washington.

Ar yr un diwrnod, cafodd Joanna Penberthy ei chysegru yn Esgob yng Nghadeirlan Llandaf. Hi yw esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn cael ei gorseddu yn Nhyddewi ym mis Chwefror. Yn ogystal 芒 chlywed pytiau o'r gwasanaeth cysegru, mae John yn sgwrsio gyda Rhian Linecar a oedd yno.

Mae Dyfan Graves yn treulio dwy flynedd ar fwrdd llong genhadol Logos Hope, yn mynd 芒 llyfrau i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae'n esbonio beth yw natur ei waith, a pham ei fod am wasanaethu.

Cafodd Cymdeithas Astudiaethau'r Hen Destament ei sefydlu yn 1917. Ganrif yn ddiweddarach, mae Eryl Davies o Brifysgol Bangor yn trafod arwyddoc芒d ei gwaith.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Ion 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 22 Ion 2017 08:00

Podlediad