Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dathlu Pantycelyn

John Roberts a'i westeion yn trafod ein tuedd i gofio William Williams, Pantycelyn, fel emynydd yn unig. A look at the work of Methodist leader and hymn writer William Williams.

Ar achlysur tri chan mlwyddiant geni'r arweinydd Methodistaidd William Williams, Pantycelyn, mae John Roberts yn gofyn beth oedd ei gyfraniad i fywyd a chrefydd yng Nghymru, a pham ein bod yn tueddu i'w gofio fel emynydd yn unig.

Eryn White o Brifysgol Aberystwyth sy'n s么n am y dylanwadau eang ar William Williams, a sut y daethant yn amlwg yn ei waith. Mae'r cerddor Manon Llwyd yn dewis hoff emyn o'i waith i'w berfformio, ac Arfon Jones o Gobaith i Gymru yn cymharu'r syniadau yn ei emynau gydag emynyddiaeth gyfoes.

Y tu hwnt i Bantycelyn, mae'r rhaglen yn trafod pytiau o newyddion crefyddol, a'r gwyddonydd Deri Tomos yn ymateb i'r newyddion fod y Doomsday Clock wedi'i ailosod. Mae hynny, yn nhyb rhai, yn golygu ein bod bellach yn agosach at ddiwedd y byd.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 29 Ion 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 29 Ion 2017 08:00

Dan sylw yn...

Podlediad