Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Maddeuant ac addoliad

John Roberts a'i westeion yn trafod 'cyfraith Alan Turing' a iaith addoliad. John Roberts and guests discuss the 'Alan Turing law' and the importance of language in worship.

Mae Llywodraeth Prydain wedi mabwysiadu "cyfraith Alan Turing", yn cynnig pardwn i filoedd o ddynion hoyw a gafodd eu dedfrydu cyn Deddf Troseddau Rhyw 1967. Mae John Sam Jones yn ymuno 芒 John Roberts i ymateb i hyn, a'r hanesydd Elin Jones yn trafod cysyniad ymddiheuro neu gynnig pardwn am ddigwyddiadau hanesyddol.

Yn ei bregeth gyntaf fel Archddiacon Ffrainc, fe alwodd Meurig Llwyd ar Anglicaniaid i sicrhau eu bod yn cyfrannu i'r trafod cyhoeddus am grefydd yn y wlad. Mae Meurig yn s么n am ei bregeth, yn ogystal 芒 sefyllfa'r eglwys Anglicanaidd yn Ffrainc.

Pa mor bwysig yw'r iaith sy'n cael ei defnyddio mewn gwasanaethau crefyddol? Wrth i'r Pab gyhoeddi adolygiad o'r gorchymyn sy'n rheoli cyfieithiadau o'r offeren Gatholig, mae John yn holi Dafydd John Pritchard a Rhodri Darcy am iaith addoliad.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Chwef 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 5 Chwef 2017 08:00

Podlediad