Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Yr Odliadur

Rhaglen yn olrhain gwerth Yr Odliadur gan Roy Stephens, gyda Ceri Wyn Jones yn cyflwyno. A celebration of the Welsh rhymes dictionary by Roy Stephens, published in 1978.

Rhaglen yn olrhain gwerth Yr Odliadur gan Roy Stephens, a gafodd ei gyhoeddi yn 1978.

Y Prifardd Ceri Wyn Jones sy'n cyflwyno, ac ymhlith y cyfranwyr mae Elan Closs Stephens - gweddw Roy Stephens - sy'n s么n am ei ddycnwch a'i ddyhead i ledaenu ap锚l y gynghanedd.

Mae'r Prifardd Mererid Hopwood yn manylu ar werth odl a defnyddioldeb Yr Odliadur i ddisgyblion newydd yn yr ysgol farddol, wrth i'r Prifardd Alan Llwyd drafod ei argraffiad diweddarach ef.

Mae'r Prifardd John Gwilym Jones hefyd yn pwyso a mesur gwerth Yr Odliadur, yn ogystal ag Idris Reynolds - un o ddisgyblion Roy Stephens.

Rhoir ystyriaeth arbennig i a oedd Yr Odliadur yn rhan o adfywiad barddonol diwedd yr ugeinfed ganrif.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Rhag 2018 13:30

Darllediadau

  • Gwen 8 Meh 2018 12:30
  • Sul 12 Awst 2018 17:30
  • Sul 30 Rhag 2018 13:30

Dan sylw yn...