Main content

Elin Fflur

Beti George yn sgwrsio gyda'r gantores a'r cyflwynydd Elin Fflur. Beti George chats with singer and presenter Elin Fflur.

Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd.

Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu.

Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd.

Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r rheolwr David Aspden a'r cynhyrchydd Jim Steinman. Yn y pen draw, fodd bynnag, plesio'r gynulleidfa o'i blaen yw'r peth pwysicaf un.

Rai blynyddoedd yn 么l, cafodd wybod na allai feichiogi'n naturiol, ac mae'n ystyried ei phrofiadau o driniaeth IVF yn rhes o rwystrau. Mae'n credu'n angerddol bod angen trafod IVF yn fwy agored, er mwyn cynorthwyo eraill i ddeall y broses.

Ar gael nawr

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 13 Medi 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Elin Fflur

    Seren Wen

    • LLEUAD LLAWN.
    • SAIN.
    • 5.
  • Anweledig

    Chwarae Dy G锚m

    • Sombreros Yn Y Glaw.
    • Crai.
    • 7.
  • Eva Cassidy

    Fields Of Gold

    • (CD Single).
    • Blix Street Records.
  • Lleuwen Steffan

    Chwalfa

    • Penmon.
    • Gwymon.
    • 7.

Darllediadau

  • Sul 9 Medi 2018 12:00
  • Iau 13 Medi 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad