Main content

Sian Lloyd

Beti George yn sgwrsio gyda'r newyddiadurwraig Sian Lloyd. Beti George chats with journalist Sian Lloyd.

Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc.

Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd 芒'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana.

Wrth sgwrsio 芒 Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y 主播大秀, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod 芒 gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd.

Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed.

Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr.

Yn ogystal 芒 darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno.

Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth.

Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal 芒 gweithio i'r 主播大秀 yn Llundain a Chanolbarth Lloegr.

Ar gael nawr

44 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Medi 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Gwyneth Glyn

    Adra

    • Rhosyn Rhwng Fy Nannedd.
    • RECORDIAU SLACYR 2005.
    • 3.
  • Adwaith

    Lipstic Coch

    • Libertino.
  • Pulp

    Disco 2000

    • (CD Single).
    • Island.
    • 6.
  • Bryn Terfel

    L'onore Ladri

    • Verdi: Falstaff.
    • 4.

Darllediadau

  • Sul 16 Medi 2018 12:00
  • Iau 20 Medi 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad