Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Ö÷²¥´óÐã iPlayer Radio ar hyn o bryd

28/04/2024

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Anni Llŷn sydd wedi bod yn sgwrsio gyda’r awdures Sioned Erin Hughes am eu chyfrol newydd ‘O’r Rhuddin’ – cyfrol sydd yn cwmpasu 365 o fyfyrdodau personol dros gyfnod o flwyddyn.

Y cerddor Geraint Lewis sydd yn trafod opera Benjamin Britten, ‘Death in Venice’, gan olrhain y cysylltiad Cymreig yn ogystal ag adolygu perfformiad diweddar gan Opera Cenedlaethol Cymru ohoni yng Nghaerdydd; tra bod yr artist gweledol Manon Awst yn sôn ei thaith ddiweddar i’r Biennale yn Fenis.

Yr awdur Ruth Richards sy'n sgwrsio am ei gwaith ymchwil ar ffotograffau John Thomas o Gymru oes Fictoria sydd yn ffrwyth cyfrol newydd ganddi o’r enw ‘Golwg Ehangach’ gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae'r ffotograffydd Carwyn Rhys Jones yn galw heibio’r stiwdio i sgwrsio am ei arddangosfa ‘Chwarelwyr’ sydd yn parhau ar daith yn America.

Yn ogystal â hyn mae ymweliad â’r ystafell ymarfer i sgwrsio gyda chast a chriw cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, sef ‘Parti Priodas’ gan Gruff Owen; a Bethan Gwanas sy'n ymuno am sgwrs fyw o Ŵyl Lenyddol Llandeilo.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Ebr 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Harp Concerto, William Mathias, Catrin Finch & Ö÷²¥´óÐã National Orchestra of Wales

    Harp Concerto - William Mathias - Catrin Finch + Ö÷²¥´óÐã NOW

  • Pedair

    Cân Crwtyn y Gwartheg

  • Ciwb & Iwan Huws

    Laura

    • Recordiau Sain Records.
  • Rebecca Trehearn, Rhys Taylor & Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y Ö÷²¥´óÐã

    Rhaid i Mi Fyw

  • Banda Bacana

    Wrth y Bwrdd Bwyta

    • Danza Negra.
    • Recordiau Joscyn.
    • 10.
  • Pys Melyn

    Bolmynydd

    • cofnodion skiwhiff.

Darllediad

  • Sul 28 Ebr 2024 14:00