Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Ö÷²¥´óÐã iPlayer Radio ar hyn o bryd

05/05/2024

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Grug Muse a Miriam Elin Jones sy'n sôn am gyfrol ddiweddaraf gwasg Cyhoeddiadau’r Stamp, sef ‘Ffosfforws 5’.

Mae Elinor Gwynn yn galw heibio stiwdio’r arlunydd tirluniau Glyn Price wrth iddo baratoi tuag at ei arddangosfa yn Oriel Plas Glyn y Weddw, a chawn hanes cyhoeddi ei lyfr llesiant hefyd sydd yn gyfuniad ysbrydoledig o’i ddarluniau a geiriau.

Mae Angharad Walton yn adolygu sioe theatr Deian a Loli – 'Y Ribidirew Olaf', tra bod Robat Arwyn, Heledd Hulson a Bethan Pari Jones yn adolygu tair cyfrol sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar - y nofel 'Helfa' gan yr awdur Llwyd Owen; 'Sut i Drefnu Priodas Pum Mil' gan Trystan, Emma ac Alaw Griffiths a blodeugerdd o gerddi chwaraeon – 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' dan olygyddiaeth Sioned Dafydd.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Mai 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Sywel Nyw

    Bwgi

    • Lwcus T.
  • Alis Huws

    Tra Bo Dau

    • Tra Bo Dau.
    • Decca.
  • Y Cyswllt Cymreig & Wyn Lodwick a'r Band

    Y Cyswllt Cymreig - Wyn Lodwick

  • Sara Davies

    Anfonaf Angel

    • Anfonaf Angel.
    • Coco & Cwtsh.
    • 1.
  • Nimrod, Enigma Variations, Edward Elgar & Ö÷²¥´óÐã National Orchestra of Wales

    Nimrod - Enigma Variations - Elgar = Ö÷²¥´óÐã NOW

  • Melys

    Chwyrlio

  • Mared

    pe bawn i'n rhydd

    • Mared.

Darllediad

  • Sul 5 Mai 2024 14:00