Main content

Glyn Evans -T欧 Coch

Stori'r adeiladwr, Glyn Evans o Lanfihangel a'i ymdrechion i adnewyddu hen sied gyda'i deulu a'i gyfeillion.

Ydych chi wedi ceisio adnewyddu hen sied? Mae'r adeiladydd Glyn Evans o Lanfihangel a'r Arth yn gwybod yn iawn y trafferthion a'r boddhad sydd i'w gael o wneud hyn. Ond diolch i help ei deulu a'i gyfeillion mae'n brofiad gwerth chweil.

Holi Glyn Evans:

Glyn, beth rydych chi yn neud ar hyn o bryd?

Rwyf newydd gael fy 50, ac wedi bod yn ffermio ers gadael yr ysgol yn 15. Erbyn hyn, mae gennyf fusnes contractio amaethyddol, ac wedi bod yn gwneud hynny ers dros 20 mlynedd - yn adeiladu ac yn ail-adeiladu hen adeiladau.

Mae adnewyddu, gwaith coed a gwaith haearn yn cymeryd fy niddordeb pennaf heddiw. Rwy'n briod ers 24 mlynedd ac mae gennyf ddau o blant; merch sy'n ugain mlwydd oed a mab sy'n ddeunaw.

Beth fyddech yn dweud yw thema gyson eich stori?

Cyfeillgarwch. Fues i yn yr ysbyty yn Llundain oherwydd problemau gyda fy nghefn ac yno daeth fy ngwraig, Alice i fy mywyd. Ma'r stori yn olrhain fy hanes carwriaethol gydag Alice a'r cyfeillgarwch a ddatblygodd ac sydd yn parhau rhyngddo ni a'r nyrs a ofalodd amdanaf hefyd. Gobeithiaf fod y stori yn cyfleu pwysigrwydd cyfeillgarwch, a sut mae pawb yn rhoi o'u gorau i helpu pobl arall mas.

Sut y gwneloch chi fwynhau'r gweithdy yn Rhydaman?

Wel wedai fel hyn - rwy'n gw'bod shwt ma' tano concrit micser yn well nad ydw i yn defnyddio'r cyfrifiadur. Roeddwn wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn a fydden i wrth y modd yn gwneud stori ddigidol arall yn y dyfodol. Bydden yn argymell unrhywun i gymeryd rhan. Uchafbwynt y gweithdy i mi oedd gweld yr holl straeon ar y diwedd. Ma' fe'n fy rhyfeddu i beth ma cyfrifiaduron yn gallu ei wneud. Ma' Ibrohim a Gill bellach ym Mhacistan ond fe fydden nhw yn dychwelyd cyn hir, a rwy'n disgwyl 'mlaen i weld beth ma nhw yn meddwl o'm stori.

Release date:

Duration:

3 minutes