Main content

Rhodri Pugh - Y Gnoc!

Dyw Rhodri Pugh ddim yn hollol siwr hyd heddiw beth oedd y digwyddiad ag arweiniodd ato'n dihuno mewn ysbyty...

Dyw Rhodri ddim yn hollol siwr hyd heddiw beth oedd y digwyddiad ag arweiniodd ato'n dihuno mewn ysbyty...

Rhodri Pugh:

Agorais fy llygaid yn araf i glywed y geiriau, "Do you know where you are sir?"

"Pontardawe" atebais yn sicr.

"Uh. No. You're in Llanelli hospital."

Roeddwn yn teimlo'n eithaf dryslyd, ac oherwydd y poen, roeddwn yn sicr bod rhywbeth yn bod arnaf. Yn araf, ro'n i'n cofio popeth - y twrnament, y g锚m a'r gnoc.

Twrnament saith-bob-ochr y WRU yn Parc y Strade. Diwrnod cyffredin i rai, ond dydd cofiadwy i mi. G锚m gyffrous, ond deg munud mewn i'r hanner cynta' rydym yn colli deg i ddim. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth amdano, felly cefais y bel, rownd un dyn, sgipio heibio'r llall ond wedyn daeth cawr o foi allan a... bang!

Rwy'n cofio dihuno eiliadau wedi'r gnoc a meddwl - Aw! Ond roeddwn yn 'concussed' am hanner awr. Panig ddaeth i'm feddwl gyntaf, oherwydd roeddwn yn methu symud fy nghorff. Roeddwn yn becso fy mod i wedi fy mharlysu. Teimlais fy hun yn chwysu ac aeth popeth yn ddu.

Y peth nesaf rwy'n cofio oedd dihuno yn yr ysbyty a derbyn y newyddion fy mod i wedi cael fy hedfan mewn hofrennydd - o'n i wastad moyn hedfan mewn hofrennydd a fi'n ddiymadferth drwy'r holl beth. Typical!

Gorweddais yn y gwely yn meddwl am yr holl beth, pan ddaeth Dad i mewn a gofyn os oeddwn i yn iawn. Atebais gan ysgwyd fy mhen ychydig, ond yn sydyn roedd poen yn saethu i lawr fy nghefn - wnes i chwerthin ychydig gan ddweud, 'Ie, gr锚t.'

Am uffach o ddiwrnod - ca'l 'concussion', reid mewn helicopter a'r t卯m rygbi yn colli 30-10! Ond diolch byth o'n i'n iawn a dwi'n ffaelu aros i'r tymor nesaf i ddechrau.

Holi Rhodri:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n aelod o chweched dosbarth yn ysgol Ystalyfera, ac yn aelod o sgwad Rybgi 1af yr ysgol a'r c锟紽y niddordebau yw chwaraeon, gwylio ffilmiau a chyfrifiaduron. Rwy'n gobeithio mynd i'r coleg i astudio Gwleidyddiaeth blwyddyn nesaf.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae'r stori yn disgrifio fy namwain ar y cae rygbi. Roeddwn yn chwarae saith-bob-ochr i'r ysgol yng nghystadleuaeth yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru yn Llanelli. Cefais gnoc ar fy ngwddf a bum yn anymwybodol.

Es i mewn hofrennydd i ysbyty Treforus. Cafodd fy rhieni ofn ofnadwy, ond diolch byth roeddwn yn OK - dim ond 'concussion'.

Dewisais greu y stori yma oherwydd dyma un o'r pethau mwyaf ofnus sydd wedi digwydd i mi. Un o fy uchelgeisiau oedd cael tro mewn hofrennydd - ond nid fel hyn!

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Roedd yn brofiad ardderchog. Dysgais nifer o sgiliau newydd am waith technegol cyfryngau. Mwynheuais gosod y tros-lais yn fawr iawn a gweld y ffilm yn dod at ei gilydd yn y diwedd.

Release date:

Duration:

2 minutes