Main content

Rhiannon Williams - Gweld o'r Gwagle

Myfyrdod yr artist Rhiannon Williams am dref Caernarfon. Stori ddigidol gan Sbarc! Galeri Caernarfon.

O edrych allan o'r gwagle, daw rhai pethau i'r amlwg ac eraill sy' angen diffiniad pellach... Stori ddigidol mewn cydweithrediad gyda Sbarc! Galeri Caernarfon yw hon.

Mae Rhiannon Williams yn arist o Gaernarfon sy'n myfyrio ar un o ddarluniau'r artist Bosch y 'Ship of Fools' a chymharu thema'r darlun gyda 'ffyliaid' tref Caernarfon heddiw.

Rhiannon Williams:

Dim hogan dre ydw i, ond ma'n rhaid i mi ddeud 'mod i'n gweld y lle fel adra bellach.

Ond tydi'r dre dwi'n ei gweld ddim 'run un ma'r mab yn ei weld. Iddo fo, fasa neb call yn mynd ar gyfyl y lle, achos cwbwl ma rhywun yn ga'l ydi hasl a trwbwl.

Dwi'n dilyn cwrs celf yng Nghaernarfon ma, ac mi wnes i gerflun tua blwyddyn yn 么l wedi'i ysbrydoli gan lun Hieronymous Bosch, 'Y Llong Ffyliad'.

Yn y Canol Oesoedd, roedd meddwon ac anffodusion cymdeithas yn cael eu rhoi ar gwch a'u gyrru lawr yr afon. Mae'n siwr fasa lot o bobol heddiw yn licio gwneud yr un fath hefo bobol ifanc trafferthus y dre.

Ers gweld llun Bosch, dwi di meddwl llawer am y thema- pwy a be ydi ff诺l? Rhywun twp a gwirion ta rhywun gwan ac anghenus? Rhywun sy'n pwyntio bys... ta falla rhywun tebyg i mi fy hun?

Holi Rhiannon Williams:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Cefais fy magu yn Llanfairpwll ond wedi ymgartrefu yn Arfon bellach. Rwy'n byw yn Rosgadfan ers bum mlynedd ac yn mwynhau golygfa wych o gastell Caernarfon ac Ynys Llanddwyn.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'r stori am yr emosiynau anodd sydd ynghlwm wrth gariad mam at ei mab, sy'n cael mynegiant mewn cerflun o gwch wnes i rai misoedd yn 么l. Yr ysgogiad oedd hoffter o'r cerflun, a oedd, mewn gwirionedd, wedi'i seilio ar y thema 'Caernarfon', yn ei holl ogoniant.

Roeddwn am ddehongli'r lle, nid drwy lygaid gwrthrychol neu haniaethol yr artist gweledol, ond drwy gysylltiad agos hefo'r profiad o fyw yno. Dyna lle mae dweud stori yn agosach at y gwir, yn aml.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Caniataodd imi archwilio'n bellach y broses greadigol. Wrth edrych ar fy ngherflun a chofio'n 么l, sylweddolais fod llawer o'r boen hwnnw wedi mynd a fod pryderon newydd y presennol wedi cymryd ei lle. Yn hyn o beth, daeth haen newydd, sydd bron yn anweledig, i'r stori wreiddiol.

Hoffaf, hefyd, fod is-haen y gorffennol pell yn sail i'r holl syniad o greu cwch, cwch sy'n llawn ffyliaid, - metaffor o fywyd yr adeg honno fel ag y mae rwan.

Release date:

Duration:

1 minute