Main content

Andrew Rhys Lewis - Steff

Mae Andrew Rhys Lewis o Ystalyfera yn edrych ar ei frawd bach, Steff, gyda balchder ac yn rhyfeddu pa mor gyflym mae'n tyfu. Bu'n aros am flynyddoedd i gael brawd bach a gwireddwyd ei freuddwyd.

Mae Andrew'n edrych ar ei frawd bach, Steff, gyda balchder ac yn rhyfeddu pa mor gyflym mae'n tyfu.

Andrew Rhys Lewis:

Crys neu 'sgidiau rygbi neu 'falle tocyn tymor Castell Nedd - 'ma rhai o'r pethe' ma' rhan fwyaf o'r bois yn oed i moyn ar eu pen-blwyddi, ond pedair blynedd yn 么l, ces i'r anrheg gorau erioed - y brawd bach wnes i obeithio cael trwy gydol fy mywyd.

Roedd ei lygaid fel soseri yn sylwi ar bopeth. Rwy'n cofio nawr yr hapusrwydd o'i weld a'i ddal am y tro cyntaf, a'i ddwylo man yn estyn am y teulu o'i gwmpas.

I mi bydd e wastad yn frawd bach, ond rwy hefyd yn sylwi ei fod yn tyfu'n gloi. Mae gweld sut mae e'n datblygu ac yn aeddfedu bob dydd yn deimlad od. Rwy'n falch ei fod e'n tyfu ond dwi' hefyd yn gweld ei fod e'n mynd yn fwy ac yn fwy annibynnol.

Mae'r dillad babi a'r cewynnau wedi hen fynd ac mae'r car bach bellach yn casglu llwch yn y garej. 'Power Rangers' ydi pob dim y dyddiau hyn. Mae ef a'i ffrindiau yn dwli mynd i'r feithrinfa.

Rydw i'n joio tynnu ei goes e weithie. Ma' fe'n mynd yn grac 'da fi ond rydyn ni wastad yn ffrindiau mewn pum munud. Es i a fe i weld ei g锚m rygbi cyntaf y llynedd pan oedd Castell Nedd yn chwarae Caerffili. Cafodd sbri wrth weiddi a neidio lan pan sgoriodd Shane Williams gais.

Licen i feddwl efallai y byddai Steffan yn chwarae i Gastell Nedd rhyw ddydd. Wedyn gallai eistedd yng nghanol y dorf a gweud wrtho pawb fod Steffan Lloyd, asgellwr Castell Nedd a Chymru yn frawd bach i mi.

Holi Andrew Rhys Lewis:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n 17 mlwydd oed ac yn ddisgybl yn y dosbarth chweched. Rydw i yn hoff o ysgrifennu cerddoriaeth a perfformio ac mae gen i ddiddordeb yn ffilmiau a dyma'r cyfle cyntaf i mi greu ffilm yn gyhoeddus.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'r stori yn s么n am y sylweddoliad bod fy mrawd yn tyfu lan yn gloi. Mae fy mrawd yn berson arbennig iawn yn fy mywyd ac felly yn naturiol penderfynais greu ffilm bychan iddo yn y stori digidol yma.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Wnes i fwynhau creu'r stori ddigidol. Byddai byth yn anghofio'r teimlad o weld ffilm fy hun ar y sgr卯n fawr.

Release date:

Duration:

2 minutes