Main content

Gill King - Nic Nacs

Atgofion plentyndod am y bwlch rhwng beth mae plant eisiau a beth mae rhieni yn meddwl y ddylan nhw eisiau. Er roedd fy rhieni yn arfer trefnu gwyliau difyr i ni, roedd well gen i fynd i edrych mewn siopau nic-nacs.

Nofio, pysgota a dringo mynyddoedd oedd syniad rhieni Gill o'r gwyliau perffaith, ond roedd yn well gan Gill chwilio am drysorau.

Gill King:

Pob Pasg a gwyliau'r ha' pan o'n i'n fach, roeddan ni fel teulu yn mynd ar wyliau mewn carafan.

Roedd Mam a Dad wir yn credu roeddan nhw yn rhoi 'treat' i ni trwy fynd i nofio, pysgota a cherdded mynyddoedd... ond o'n i wastad isio mynd i siopa' nic-nacs!

Dwi'n cofio syllu a rhyfeddu ar yr holl drysorau oedd yn llenwi'r silffoedd ac yn dal llygad plentyn.

Er o'n i isio prynu pob dim oedd yna, doedd gynna i ddim digon o bres poced i'w prynu. Ond wrth edrach yn 么l, doedd hynny ddim yn ddrwg o beth, achos o leia' o'n i'n cael breuddwydio am y cathod plastig, y moch gwydr a'r ceffylau tseina.

Erbyn heddiw, dwi'n ddigon hen i sylweddoli bod gwyliau yn y garafan yn sbesial, a lot o nic nacs yn well ar silff f'nychymyg.

Holi Gill King:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Un o Sheffield yn wreiddiol. Rydw i wedi byw ym Mynydd Llandegai, Gwynedd ers 20 mlynedd. Rydw i'n gweithio yn rhan amser fel nyrs mewn meddygfa ac yn dilyn cwrs gradd hefyd, mewn Celfyddyd Gain efo diddordeb arbennig mewn cerfluniaeth a ffotograffiaeth.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Atgofion plentyndod gan Gill King am y bwlch rhwng beth mae plant eisiau a beth mae rhieni yn meddwl y ddylan nhw eisiau...

Er roedd fy rhieni yn arfer trefnu gwyliau difyr i ni, roedd yn well gen i fynd i edrych mewn siopau nic-nacs.

Pam y dewisoch s么n am y stori yma yn arbennig?

Gan 'mod i'n dysgu Cymraeg, roedd yn rhaid i mi ddewis rhywbeth eitha' syml - rhywbeth am beth rwy'n gallu siarad amdano yn hytrach na beth faswn i licio siarad! (Rhwystredig weithiau!)

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Profiad hollol bositif... a lot o hwyl hefyd. Er o'n i'n nerfus (siarad Cymraeg a Cyfrifiaduron ydy'r ddau beth anoddach i mi yn y byd!) Ro'n i'n gyfforddus iawn yn y gr诺p ac roedd hi'n fraint a phleser gweithio gyda'r criw. Braf oedd cael blas ar y meddalwedd mewn awyrgylch mor gefnogol.

Release date:

Duration:

1 minute