Main content

Jamie Shepherd - Y fi a'r enwogion

Mae Jamie Shepherd o Gricieth wedi dod ar draws llwyth o enwogion... ac efallai rhywbryd, yn y dyfodol agos, y bydd yn enwog ei hun.

Mae Jamie Shepherd o Gricieth wedi dod ar draws llwyth o selebs ac enwogion... ac efallai rhywbryd, yn y dyfodol agos, y bydd yn enwog ei hun!

Jamie Shepherd:

Ma' pawb erioed wedi deud wrthaf 'mod i'n lwcus cael cwrdd ag enwogion. O gyfarfod y Chuckle Brothers yn ifanc i Gethin Jones oddi ar Blue Peter; ma'r lwc wedi parhau trwy fy mywyd.

Pan oeddwn i ar fy ngwyliau yn Madeira, do'n i ddim yn gwybod bod y band pop UB40 yn aros yn yr un gwesty a phrin sylweddolais eu bod nhw'n torheulo wrth fy ymyl!

Cefais docynnau VIP i'w gig a'r fraint o dreulio amser hefo nhw wedyn.

Mae ysbrydoliaeth y bobl yma a'r profiad dwi wedi cael o fewn y cyfryngau, wedi gwneud i mi chwenychu gyrfa fel cyflwynydd teledu. Byddai'n cofio'r profiadau prin yma ac yn cadw nhw'n agos i 'nghalon fel gallaf goncro fy mreuddwyd yn y dyfodol.

Gwatchiwch allan Ant & Dec, byddai'n dwyn eich swyddi cyn bo hir!

Holi Jamie Shepherd:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?

Dwi'n byw yng Nghricieth ac yn astudio Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai, Bangor. Rwy'n cyflwyno ar Radio Ysbyty Gwynedd ac yn gobeithio gwella fy sgiliau fel y gallaf gyflwyno ar y teledu.

Beth yw pwnc eich stori?

Y cyfle i fynegi 'mod i'n lwcus i gael cyfarfod ag enwogion a sut mae'r profiad yma yn fy ysbrydoli gyda fy ngyrfa.

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Wedi mwynhau yn arw. Dwi 'di cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau mewn creu stori. Bydd y profiad yn help mawr i mi yn y Brifysgol ac i fy ngyrfa yn y dyfodol.

Release date:

Duration:

58 seconds