Main content

Ceinwen Jones - Brat a Sgidiau Hoelion

Mae Ceinwen Jones yn wraig fferm wedi ymddeol. Dyma hanes am fywyd ar odrau Mynydd Hiraethog ar gychwyn y 1920gau.

"Plant y dauddegau oedden ni a daw atgofion o'r dyddiau hynny weithiau i gosi'r c么f..."

Mae Ceinwen Jones yn wraig fferm wedi ymddeol. Dyma hanes am fywyd ar odrau Mynydd Hiraethog ar gychwyn y 1920gau.

Ceinwen Jones:
Plant y dauddegau oedden ni a daw atgofion o'r dyddiau hynny weithiau i gosi'r cof. Cafodd y pedwar ohonom-dau frawd, fy chwaer a minnau, ein magu ar fferm "Padell o le" yn nghesail Mynydd Hiraethog.

Diwrnod dipio neu olchi defaid bydde' raid i ni helpu a theimlem yn bwysig ar ddiwrnod cneifio. Y ni oedd ceidwad y llinyn y bydde'r cneifwyr yn galw amdano i rwymo traed y defaid. Cofiaf y tro cyntaf cael trio godro a'm llaw yn rhy fach i fynd rownd y deth. Tynnu a gwasgu heb gael un dropyn.

Tr锚t arall i mi adeg y cynhaeaf oedd te yn y cae efo'r dynion a chael ein cario adre' ar ben y llwyth ola'. Mam a ninne' yn mynd i hel llus. Tun te i bob un a mam yn cario'r brechdanau jam yn y fasged. Ymhen dwy awr, troi am adre'. Roedd yn amlwg o weld ein gwynebau nad oedd y llus i gyd wedi mynd i'r tun!

Dyletswydd arall i ni'r plant oedd gwylio'r hwch yn dod 芒 moch bach. Gallai hyn gymeryd oriau weithiau ond gyda stolion godro, lamp stabl a phac o gardiau byddem yn reit hapus. Roeddem i ofalu am y moch bach rhag ofn i'r hwch orwedd arnynt. Ar yr un pryd cadw llygaid ar y 'Jack o' Trumps'.

Ie, plant y dauddegau oeddem ni, pan oedd bywyd yn syml ond yn saff.

Holi Ceinwen Jones:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Dwi'n wraig fferm wedi ymddeol ac yn treulio rhan helaeth o'm hamser yn gwneud gwaith gwirfoddol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn darllen, dram芒u, cynganeddu, Merched y Wawr, barddoniaeth a dwi'n hoff o fynd i'r llyfrgell i ddarllen a chwilio.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'n s么n am fy mhrofiadau i yn byw gyda'm rhieni a'n brodyr ar gychwyn y 1920gau ar odrau Mynydd Hiraethog. Dim trydan, dim radio na theledu, roedd yn rhaid i ni greu ein diddordeb ein hunain.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Bu'r cyfan yn fwyniant mawr.

Release date:

Duration:

3 minutes