Main content

Nia Williams - Teliffant

Daw atgof o blentyndod Nia Williams yn fyw wrth iddi weld trysor ar wal ystafell wely ei mab, carden o raglen Syr Wymff a Plwmsan o 1975, 'Teliffant'.

Daw atgof o blentyndod Nia Williams yn fyw wrth iddi weld trysor ar wal ystafell wely ei mab...

Nia Williams:

Syr Wynff ap Concord y Boss wnaeth roi'r garden yma i fi. Ro'n i'n saith a methu credu pa mor hir oedd ei freichiau. Nes i gofnod yn fy nyddiadur:

"Dydd Mercher, Ebrill unfed ar bymtheg 1975.

"Neithiwr roeddwn i a phlant yr Urdd wedi mynd ar Teliffant. Es i gyda Lisa a Sian a roeddem ni wedi gweld Mici, Olwen a Winff ac ar 么l roeddwn i wedi cael pop coch."

'Rwy'n cofio synnu pa mor fawr oedd y cymeriadau yn y cnawd, do nhw ddim yn fach fel ar y bocs adre. Roedd y stiwdio'n boeth a'r camer芒u du yn anferth. Roedd ofn arnai braidd. 'Nath Myf Talog edrych ar ol ni. Uchafbwynt arall oedd cael tocyn i gael bwyd yn cant卯n y 主播大秀.

Er bod gan Ioan fy mab digon o ddewis, 'Anturiaethau Syr Wynff a Phlwmsan' yw ei hoff raglen deledu. Mae ei glywed yn chwerthin wrth weiddi 'Raslas bach a mawr!' neu esgus daflu slepjan yn dod 芒'm plentyndod yn fyw i'm cof. Heddiw mae'r garden yn saff ar wal ei ystafell wely ef.

Release date:

Duration:

1 minute