Main content

Heli Vaterlaws - Aberth Angenrheidiol

Aberth angenrheidiol oedd yr unig ffordd i Heli, Cai a Non ddod allan o weithio ar randir eu tad! Yn lle prynu llysiau o'r siop, roedd e'n mynnu trio'u tyfu nhw.

Aberth angenrheidiol oedd yr unig ffordd i Heli, Cai a Non ddod allan o weithio ar randir eu tad! Yn lle prynu pys a thatws ac afalau yn y siop fel pawb arall, roedd e'n mynnu trio'u tyfu nhw.

Heli Vaterlaws:

Bob dydd Sadwrn yn ddi-ffael roedd yn rhaid i Cai a Non a minnau dreulio oriau fel caethweision ar y rhandir.

O'n i'n crefu ar dad i beidio mynd, ond doedd e ddim yn deall pam nad oedd mefus a mafon a chyreins duon yn ein cyffroi ninnau'n lan hefyd.

Ond o'r diwedd, daeth dydd y farn a chawson ni'r plant ein rhuddau o faglau'r chwynnu...

Roeddwn i ar ganol codi fforc anferth, trwm pan sylwais ar y ffrils bach ar esgidiau fy chwaer. Esgidiau bach del a sanau bach del a thraed bach del yn ddiniwed ar y tir o'm blaen. Roedd dannedd haearnaidd y fforc creulon yn hedfan yn syth i'w cyfeiriad nhw allan o'm rheolaeth yn llwyr... wps!

Daeth y prynhawn hwnnw ar y rhandir i ben yn gynt nag arfer a bu raid i Non Fach gael trip i ysbyty Llandudno.

Mae hanes yn profi fod yr arwyr mwyaf wedi gorfod gwneud aberth er mwyn newid y drefn - Mandela, Gandhi, y Fam Teresa... a'm chwaer!

Oherwydd ei haberth bychan hi, doedd dim raid i ni fynd i'r rhandir byth eto.

Holi Heli Vaterlaws:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Dwi'n dod o Ddeganwy, ond yn byw ym Mhentraeth rwan.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'r stori'n disgrifio pan wnes i lwyddo i roi fforc garddio trwy droed fy chwaer fach - yn ddamweiniol! Dewisais y stori yma er mwyn cofnodi'n derfynol nad fy mai i oedd o a bod da wedi dod o'r drychineb yn y pendraw.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Llawer o hwyl!

Release date:

Duration:

1 minute