Main content

Gareth Jones - 'Look at the deryn on the coeden'

Mae Gareth Jones yn edrych yn 么l ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol yn Llundain fel aelod o 'Gymry Llundain' yn y 40gau.

Mae Gareth Jones yn edrych yn 么l ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol yn Llundain fel aelod o 'Gymry Llundain' yn y 40gau.

Gareth Jones:

O'n i'n bedair a hanner blwydd oed pan es i i'r ysgol am y tro cyntaf yn Llundain. Gofynodd yr athrawes i fi, "What do you see on that picture on the wall Gareth?"

Atebes i, "Look at the deryn on the coeden!" Dechreuodd y plant arall i chwerthin ar fy mhen i. Rhedais i mas o'r dosbarth a dihanges i adref ar daith dros filltir, yn llefain bob cam.

Aeth fy mam 芒 fi 'n么l i'r ysgol yn syth yn pregethu'r holl ffordd.

Ces i fy ngeni a'm magu yn Putney, Llundain. Dim ond Cymraeg oedd fy rheini i'n siarad gartref, felly'r unig Saesneg o'n i wedi clywed oedd wrth y ferch fach drws nesa' yn gweiddi dros wal yr ardd.

Dysgais i'r iaith Saesneg yn gloi, ond i fod yr un peth 芒'r plant arall, roeddwn i'n siarad yn Saesneg ag acen Llundain; "Whatcha mate? How's it goin'? Alright!" Nawr, roeddwn i'n iawn, yn un ohonyn nhw.

Ond pan es i adre i ddangos i fy mam beth o'n i wedi dysgu -ces i glipen ar 'y nghlust! "Don't you ever bring that common Cockney accent into this house!" meddai hi.

Felly roeddwn i'n siarad 芒'r plant yn yr ysgol ag acen cockney, tra adref roeddwn i'n siarad Saesneg ag acen Gymraeg.

Pan ddaeth fy chweched penblwydd i, dywedodd fy mam gallen i ofyn i rai o'm ffrindiau i ddod adref i gael parti bach. Gwrthodes i... achos shwt o'n i'n mynd i siarad gyda'r plant mewn acen cockney a'n rhieni mewn acen Gymraeg? Ges i fyth parti penblwydd tra mod i'n yr ysgol.

Pan o'n i'n 17 oed, es i ar fy gwyliau i Aberporth, fel o'n i'n gwneud bob blwyddyn...Fe wnes i ddod i benderfyniad; pan fydden i'n dychwelyd i Lundain, o'n i'n mynd i siarad gyda un acen yn unig - acen Gymraeg.

Dwi fyth wedi maddau i fy rhieni am beidio fy nysgu i siarad Saesneg pan o'n i'n fach a chyn mynd i'r ysgol am y tro cyntaf. Ond mae'r geiriau yma gyda fi bob dydd o'm mywyd, hyd nest bo' fi'n farw - "Look at the deryn on the coeden!"

Holi Gareth Jones:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Ce's i 'ngeni yn Llundain yn 1938 cyn symud i Gymru yn 1962. Dwi wedi bod yn briod tair gwaith. Rwy' wedi teithio'r byd gyda'r RAF a byw mewn gwledydd gwahanol.

Rwy'n rhugl yn y Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg ac mae gen i allu sylfaenol yn Arabeg a Siapan茂eg. Dwi yn y broses o ysgrifennu llyfr am fy mhrofiadau. Mae rhai o'r straeon yn ddoniol ac eraill yn drist neu'n erchyll.

Beth yw pwnc eich stori?

Ma'n stori sy'n s么n am fy mhlentyndod yn Llundain a'r problemau wnes i wynebu achos ni wnaeth fy rhieni ddysgu digon o Saesneg i fi cyn mynd i'r ysgol. Dwi'n teimlo gryf iawn am y trawma di-angenrhaid wnes i brofi. Ma'r creithiau dal gen i heddiw.

Pa agwedd o'r gweithdy oedd yr un mwyaf gwerthfawr?

Cwrdd 芒 phobl gwahanol a'r ffordd wnaeth bob un taclo'r broses. Dysgon ni rhywbeth diddorol ac adeiladol. Ces i'r cyfle i fynegi fy hunan mewn ffordd hollol wahanol.

Release date:

Duration:

3 minutes