Main content

Mari Gwilym - Rywbath bach od!

Cofiwch i gymryd ail-olwg os fyddwch chi'n mynd i'r lle chwech yng ngardd Mari Gwilym - efallai y cewch chi gwmni Brenda'r Broga!

Cofiwch i gymryd ail-olwg os fyddwch chi'n mynd i'r lle chwech yng ngardd Mari - efallai y cewch chi gwmni Brenda'r Broga!

Mari Gwilym:

Mae 'na rywbeth bach od amdana' i. Fedrai ddim byw heb gael broga yn fy mywyd!

Pan o'n i'n blentyn, roedd gennym ni bwll-lilis yn yr ardd, a hwnnw'n llawn o frogaod. Mi fyddwn i'n eu trin nhw fatha 'sa nhw'n anifeiliaid anwes - dwad � nhw i'r ty yn fy mhocad a 'balli er mwyn iddyn nhw wylio'r teledu efo fi!

Roedd gan Mam druan ffobia am frogaod ac yn aml yn cael ffit binc wrth ffeindio broga mewn lle annisgwyl! Ar y bwrdd bwyd; yn y bin bara; neu yn fy ngwely wedi i mi godi a mynd i'r ysgol!

Mae yna dri yn byw ar y patio yn fy ngardd i ar hyn o bryd. Fy ffefryn o ddigon yw Brenda Broga, sy'n dychryn pawb fentrith eistedd ar y lle-chwech yn yr ardd - drwy neidio a sboncio heibio'u pen-olau!

Efallai 'mod i'n od, ond mae rhai pobol yn smocio ac yfed. Cwbwl dwi'n 'neud ydi siarad efo broga!

Holi Mari Gwilym:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun.

Dwi'n ddynes fechan swnllyd ganol-oed sy'n byw yng Nghaernarfon, Gwynedd. Dwi'n berson anhechnegol iawn, ond yn awyddus i ddeall rhywfaint am y byd cyfrifiaduron modern!

Yn sylfaenol, pethau hen ffasiwn sy'n mynd � 'mryd i - garddio, cerdded, adarydda, byd natur, darllen, theatr, sinema... o, a siarad a busnesu! Mae gen i un gwr (ma' un yn hen ddigon!)... a does gen i ddim plant - o ddewis, nid gorfodaeth.

Beth yw testun eich stori?

Dwi'n berson agos iawn at natur - byd natur! Fydda i'n aml yn siarad efo anifeiliaid a chreaduriaid. Bosib oherwydd 'mod i'n unig blentyn, gan 'mod i wedi fy magu ar fy mhen fy hun yng nghanol cefn gwlad - a minnau efo gormod o ddychymyg! Dewisais ysgrifennu am fy agosatrwydd at frog�od.

Pam y dewisoch s�n am y stori yma yn arbennig?

Mae 'na froga wastad wedi bod yn fy mywyd i!

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Awyr iach! Cael gadael i'm dychymyg hedfan i bobman! Gwych a chysidro 'mod i'n anhechnegol. Dwi wirioneddol ddim isio anghofio'r profiad.

Felly fydd yn rhaid i mi weithio mwy ar y sgiliau a ddysgais i. Dwi'n teimlo'n ieuengach ar �l bod yn y sesiynau - teimlo 'mod i'n symud i'r un cyfeiriad �'r bobol ifanc 'ma! Buddiol tu hwnt - a phwysicach fyth - o'dd o'n hwyl!

Release date:

Duration:

1 minute