Main content

Huw Evans - Peidiwch 芒 dweud wrtho neb...

Mae Huw Evans yn poeni beth fydd pawb yn meddwl wrth glywed fod ganddo gariad mawr at un peth yn arbennig... Rhifau!

Mae Huw Evans yn poeni beth fydd pawb yn meddwl wrth glywed fod ganddo gariad mawr at un peth yn arbennig...

Peidiwch a dweud wrtho neb, ond dwi'n gyfrifydd. 'Falle bo' hynny ddim mor wael 芒'r 'trainspotters' ond 'dyn ni ddim yn bell ar ei holau nhw! Ni'n gwisgo siwts glas tywyll, mae 'da ni calculators yn ein pocedi, ni'n sych a 'boring' ac rydym ni'n llawn cyffro am 'balance sheets'!

Ond rwy'n licio ffigyrau - dwi'n teimlo'n gyfforddus gyda nhw. Rydym ni'n deall ein gilydd... ni'n ffrindiau - ffrindiau mawr gyda ambell un: Co 65 - y flwyddyn ges i fy ngeni; 99 - am bo'n fi'n dwli ar hufen ia... a 69 - rhif fy fflat wrth gwrs!

Dwi'n gwybod bod llawer o bobl yn meddwl mod i'n od ond ydych chi erioed wedi meddwl sut fywyd fyddai hi yn y byd hwn heb rifau?

Fyddai pawb yn gallu gyrru'n gyflym fel barcud; bydde dim cyfrifiaduron neu chlociau gyda ni a byddai'n amhosib i ffonio ffrindiau i gwrdd am beint neu drefnu cwrdd 芒 merch am ddet! A sut fydden i'n medru adnabod Pumed Symffoni Beethoven?

Os ydych chi'n digwydd fy ngweld i ar y stryd yn gwisgo 'anorak' a het 'bobble', peidiwch rhoi dau a dau at ei gilydd a chael pump... Dim trainspotter ydw i, ond cyfrifydd ac rwy'n barod i ddweud hynny wrth bawb nawr.

Holi Huw Evans yn 2003:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n 38 mlwydd oed ac yn gyfrifydd. Rwy'n enedigol o Frynaman a nawr yn byw yn Abertawe. Rwy'n mwynhau amryw o bethau: ffotograffiaeth, celf a phob math o chwaraeon.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae'r stori am rifau a hefyd yn cael tamaid bach o sbort am fy swydd fel cyfrifydd. Dyma bwnc sy fyth yn cael ei drafod ond sydd yn bwysig iawn i'n bywyd ni gyd pob dydd.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Profiad gwych ac yn newid mawr o fy ngwaith bob dydd - a gobeithio fydd e'n ddechreuad ar gyfnod newydd creadigol.

Release date:

Duration:

2 minutes