Main content

Sioned Hughes - Lle Delfrydol

Ni allai Sioned Hughes lai na chwympo mewn cariad gyda'r lle delfrydol yma yng Nghwlad y Basg...

Ni allai Sioned Hughes lai na chwympo mewn cariad gyda'r lle delfrydol yma yng Nghwlad y Basg...

Sioned Hughes:

Aelwyn, fy nghariad, wnaeth fy nhywys i yma am y tro cyntaf. Bu e'n byw yma am flynyddoedd. Roedd e'n gwybod y byddwn yn cael fy hudoli gan y lle - ac 'roedd e'n iawn!

Petai rhywun yn gofyn i fi greu fy lle delfrydol - dyma fe.

Mae yna dri traeth, cerfluniau yn y m么r, mynyddoedd fel sydd yng Nghymru, siopau da, bariau gwych, bwyd ffantastig...

Ond gorau oll, mae Donostia'n llawn Basgwyr - pobl llawn cymeriad gydag iaith a diwylliant eu hunain. Tebyg i'r Cymry - ond hollol wahanol hefyd!

Basgwyr yw ffrindiau gorau Aelwyn - a mae nhw nawr yn ffrindiau i mi hefyd. Mae nhw'n dod at ei gilydd i ddathlu fiesta San Sebastian bob mis Ionawr.

Mae pob aelod o'r criw yn gwisgo sgarff yr un fath - gyda phatrwm unigryw arno. Ges i sgarff fy hun fel anrheg gan y criw blwyddyn yma!

Hoffwn i fyw yng Ngwlad y Basg - ond er mor hyfryd yw Donostia a'i phobl, mae Aelwyn yn falch i fod adre ac yn 么l yn byw yng Nghymru... Ond pwy a 诺yr be wneith ddigwydd yn y dyfodol!

Release date:

Duration:

1 minute