Main content

Olwen Cottle - Cig ar yr Esgyrn

Mae Olwen Cottle yn berchen ar lythyron a ysgrifennwyd gan ei hen, hen, hen ewythr a dyma gychwyn ar ei diddordeb o edrych yn 么l ar achau'r teulu.

Mae Olwen Cottle yn berchen ar lythyron a ysgrifennwyd gan ei hen, hen, hen ewythr a dyma gychwyn ar ei diddordeb o edrych yn 么l ar achau'r teulu.

Olwen Cottle:

Geneth o Gaernarfon a'i gwreiddiau'n Nyffryn Clwyd ydw i. Pan symudais i weithio i Lundain ac yna Hemel Hempstead, dyma ddechrau holi am fy achau, yn y gobaith o roi cig ar yr esgyrn.

Roedd John Williams, Garnedd Isaf, Prion a'i deulu wedi penderfynu ymfudo a chwilio am fywyd gwell yn Oshkosh, Wisconsin. Cadwodd nain naw o'r llythyron a ysgrifennodd e at ei frawd - fy hen, hen daid - rhwng 1851 a 1862.

Ynddynt mae'n darlunio'r siwrne, y newid byd a'r caledi. Cymerodd y daith wyth wythnos dros f么r a thir, ond wedi'r holl ymdrech, bu farw ei wraig a'i ddau blentyn o fewn tair wythnos i gyrraedd Oshkosh.

Ymhen amser, ail-briododd John Williams gydag Hannah a ganwyd wyth o blant iddynt. Bu'n un o sefydlwyr capel Peniel yno a llwyddodd i gadw cysylltiad 芒'i deulu a'i ffrindiau'n Nyffryn Clwyd.

Dwi'n parhau i gysylltu'n achlysurol gyda'i ddisgynyddion, a'r gobaith ydi eu cyfarfod rhywbryd, er mwyn rhoi mwy o gig ar yr esgyrn.

Holi Olwen Cottle:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?

Pennaeth Ysgol Gynradd yn ceisio gwneud amser ar gyfer diddordebau eraill.

Beth mae eich stori amdano?

Agwedd o'r cyfoeth o wybodaeth dw i wedi ei gasglu trwy "hel fy achau".

Pam y dewisoch s么n am y stori yma yn arbennig?

Roeddent yn fy meddwl. Wnes i dderbyn dwy alwad ff么n o fewn wythnos gan aelodau eraill o'r teulu (perthnasau pell), sy'n ymhel 芒'r achau, yn gofyn am wybodaeth. Roeddwn yn bwriadu rhoi rhywfaint o amser yn ystod gwyliau'r Pasg i ymhel 芒'r achau ta beth.

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Diddorol iawn - ac yn gweld llawer o bosibiliadau i ymestyn yr hanes neu'r stori a gweld syniadau am straeon eraill.

Release date:

Duration:

1 minute