Main content

Gail George - Nhw

Mae Gail George wedi cael digon ar bobol sydd yn barnu eraill ac yn eu labeli'n gamarweiniol. Gall labeli frifo i'r byw...

Mae Gail George wedi cael digon ar bobol sydd yn barnu eraill ac yn eu labeli'n gamarweiniol. Gall labeli frifo i'r byw...

Gail George:

OK dwi'n dew, ond jiw dwi'n hapus.

Y drafferth yw bod nhw'n meddwl 'mod i'n bwyta dim byd ond 'cream cakes' a tships... a NHW sy' wastad yn iawn ontefe? Nhw - y bobol sy'n barnu pawb - y bobol cul.

Ond ma' nhw yn anghywir. Dwi'n dew achos bo' 'da fi'r cyflwr 'ma o'r enw 'Stein Leventhal'. Dy' chi ddim wedi clywed amdano fe - nad y'ch chi? Dyn nhw ddim chwaith, ond dyw e' ddim yn stopio nhw.

Yn ifanc, roeddwn i'n denau ond wnaeth y cyflwr yma a dau fab annwyl newid hynny. Ond mae cael y bois wedi bod gwerth bob pwys. Mae nhw, y bobol cul, hefyd yn tybio 'mod i'n dwp. Ma'n rhaid bo' fi - dwi'n dew a hefyd yn fenyw.

Ond 'dwi ddim yn dwp chwaith. Edrychwch, 'cap' a 'gown' - Gradd Anrhydedd mewn Cemeg - wedi datblygu rhaglenni cyfrifiaduron i'r twnel gwynt a'r prototeip Concorde.

Wrth siopa un diwrnod yn Llanelli, dyma sgwrs gefais:
"Be' chi'n neud 'te? Gwith'o yn y cantin ife?" 'wedodd y ferch wrth wenu.

"Na. Lecturer."

"O! Lect'ro yn beth wedyn. Teipo ife?"

"Na. Lect'ro yn Computer Science a Systems Analysis."

"O!" ...A 'na ddiwedd y sgwrs.

Roedd hi wedi rhoi label arnai, fel y ma'n nhw - y bobol difeddwl - o hyd yn gwneud.

Ges i 'mhenblwydd ddoe yn 59 ac mewn blwyddyn byddai'n 60. Rwy'n dda yn Mathemateg! Felly dwi nawr yn fenyw, yn dew ac yn hen - does dim gobaith!

Dwi'n dwp eto achos mae hen bobol yn dwp nagyn nhw? 'Past it'... 'over the hill'... dim byd i gyfrannu. Wel ma' nhw wedi penderfynu - y bobol gul.

Edrychwch arna'i heddi. Iddyn nhw dwi'n dew, dwi'n fenyw ac yn awr dwi ar fin bod yn hen. Ond tu mewn mae person bywiog, deallus sydd yn sylweddoli sialens y dyfodol.

Byddan nhw wastad yn gweld y pethau negyddol... byth y pethau cadarnhaol.

Ydych chi yn un ohonyn nhw - y bobol gul, difeddwl? Wel? Barnwch chi eich hunan.

Holi Gail George:

Beth yw eich hanes chi?

Rwy'n briod am 37 o flynyddoedd ac mae dau fab gennym - Damian a Ultann. Rwy'n ddarlithydd yng nghyfrifiaduron yng Ngholeg Sir Gar ers 1980 ac yn Rheolwraig y 'Virtual College' hefyd.

Beth yw pwnc eich stori?

Am bobol cul, difeddwl sydd yn barnu pobol eraill ar yr olwg gyntaf. Roeddwn am ganolbwyntio ar y dolur mae'r bobol 'ma yn gwneud ac anghyfiawnder y peth.

Beth oedd eich profiad chi o greu stori ddigidol eich hun?

Yr unig amser pryderus, o'r profiad a oedd yn hollol wych, oedd y sylweddoliad ar bwynt hanfodol, nad oedd 'da fi ddigon o ddeunydd gweledol i gefnogi'r sgript yr oeddwn i wedi recordio.

Ond fe wnaeth hyn ein gorfodi i fod yn ddyfeisgar ac fe ddaeth pawb allan ohoni yn orfoleddus. Cafodd y gweithdy ei gynllunio fel hyn?!

Release date:

Duration:

3 minutes