Main content

Will Owen - Tanio'r Dychymyg

Mae dychymyg Will Owen yn cael ei danio wrth weld eitem o eiddo ei dad.

Mae dychymyg Will yn cael ei danio wrth weld eitem o eiddo ei dad.

Will Owen:

I'r India aeth fy nhad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddeunaw oed aeth allan gyda'r 'South Wales Borderers' ac wedyn dod yn 么l yn ddwy ar hugain. Diolch i'r drefn nad oedd e wedi mynd i'r ffosydd yn Ffrainc neu fe allai fod wedi'i anafu, neu drengi hyd yn oed.

Dwi'n cofio pan o'n i'n bump oed, ac agor dr么r dresel fy nain a dod o hyd i focs dal matsys, wrth iddo fo a'i gyd-filwyr adael India ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.

Roedd fy Nhad a minnau'n ffrindiau mawr, a 'swn i'n mynd mor bell dweud mai fo oedd fy ffrind gora. Ond prin oedd yr adega' oedd o'n siarad am ei brofiadau yn y Rhyfel.

Wnes innau ddim gofyn rhyw lawer chwaith - roedd o'n haws i'r ddau ohonom adael y gorffennol a'r atgofion i orffwyso gyda'r meirw.

Ond hyd heddiw, dwi'n edrych ar y bocs dal matsys hwn ac mae'n tanio'r dychymyg wrth feddwl am yr erchyllderau wynebodd fy nhad a chymaint o rai eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Holi Will Owen

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun.

Peiriannydd wedi ymddeol yn hoff o ddysgu ieithoedd estron ydw i. Rwy'n gallu siarad Eidaleg yn weddol rhugl. Rwy'n hoff hefyd o ddarllen, sgwennu a cherddoriaeth. Rwy'n aelod o G么r Meibion y Traeth, Ynys M么n ers 34 mlynedd.

Beth yw pwnc eich stori?

Hanes bocs matsys anghyffredin fy Nhad. Dewisais y stori yma er c么f am fy ffrind gorau - fy nhad.

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Diddorol iawn i'w gwneud ac mi oedd yn dda cyfarfod 芒 chymaint o bobl gwbl gwahanol. Cefais oriau hapus a dedwydd yn eu cwmni.

Release date:

Duration:

2 minutes