Main content

Dafydd James - Lugansk

Mae Dafydd James yn cofio cyngor ei fam wrth edrych ar anrheg cafodd o daith dawnsio gwerin yn Lugansk.

Mae Dafydd James yn cofio cyngor ei fam wrth edrych ar anrheg cafodd o daith dawnsio gwerin yn Lugansk.

Dafydd James:

Sai'n gwybod beth yw e - falle Si么n Corn, dewin, corrach hyd yn oed?

Ges i e wrth blentyn pan yn ymweld 芒 chartre' plant yn Lugansk, Wcrain, pan o'n i'n un ar ddeg mlwydd oed.

Ro'n i'n ddigon ffodus i fynd fel rhan o Gwmni Dawns Werin Caerdydd yn 1990, fel rhan o gyfnewid diwylliannol.

Roedd e'n brofiad gwbwl newydd - y bwyd yn ddiflas, 'queue' tair milltir i McDonalds ac roedd hyd yn oed y Pepsi wedi'i labeli gyda llythrennau od!

Wnaethon ni ymweld ag ysbyty oedd yn delio gyda chleifion o drychineb Chernobyl.

Ond doedd dim gwifrau, na 'beeps' peiriannau... y driniaeth oedd i olchi mewn gwin coch a halen.

Ro'n i di synnu ar faint o sylw cafon ni. Roedden ni fel selebs!

Aethom ni i wasanaeth i gysegru tir ar gyfer adeiladu eglwys. Fe wnaeth yr hen fenywod yna rhoi anrhegion o dywelion, ffrwythau wedi pydru ac ati i ni; pethe nad oedden nhw lot o werth i fachgen un ar ddeg mlwydd oed.

Rwy'n cofio Mam yn dweud wrtho fi ar y pryd i fod yn ddiolchgar am bopeth rwy'n ei gael, achos mae nhw fwy werthfawr i nhw nag i ni.

Ond bron ugain mlynedd yn hwyrach rydw i'n gwerthfawrogi yr anrhegion ces i ac mae dal gen i un peth rhyfedd; y Sion Corn yma...

Release date:

Duration:

1 minute