Main content

Elinor Williams - Ar ei newydd wedd

Sut fyddech chi'n mynd ati i adnewyddu hen fferm? Gwrandewch ar hanes Elinor Williams yn siarad am sut y gwnaeth hi adnewyddu hen gartref ei mamgu...

Holi Elinor:

Beth yw pwnc eich stori ddigidol?

Roeddwn i wedi ei chael hi'n anodd i benderfynu ar destun fel sail i fy stori. Yn y diwedd wnes i benderfynu ei seilio ar yr hyn sydd wedi bod yn waith caled iawn i mi a'm cymar, Geraint, dros y blynyddoedd diwetha' - adnewyddu hen gartref mam-gu.

Ma' llawer o bobl wedi gweud wrtha'i fy mod i'n debyg iawn iddi hi o ran cymeriad, ac mae'n weddol ryfedd i feddwl fy mod yn byw yn ei chartref hi nawr.

Ond eto, mae'n teimlo'n hollol gysurus i wybod fy mod i yn parhau i fyw yn yr un amgylchfyd ag y gwnaeth hi.

Fel oedd eich profiad chi yn y gweithdy?

Rydw i wedi hen arfer defnyddio cyfrifaduron o fewn fy swydd yn ddyddiol, ond roedd e'n braf gallu defnyddio'r 'run dechnoleg i wneud rhywbeth creadigol a phersonol. Dogfen fyw i nodi'r amser pwysig yma yn fy mywyd i.

Release date:

Duration:

2 minutes