Main content

Brenda James - Brodyr ar Wah芒n

Mae gan Brenda James atgofion melys iawn o Wncwl Jim ag ymfudodd i Ohio, ond pa atofion sydd ganddi o'r wncwl wnaeth ymfudo i Ganada?

Mae gan Brenda atgofion melys iawn o Wncwl Jim a ymfudodd i Ohio, ond pa atofion sydd ganddi o'r wncwl wnaeth ymfudo i Ganada?

Cymeriadau hollol wahanol oedd dau o frodyr mam. Ymfudodd Wncwl Tom gan setlo yn Cleveland, Ohio. Bob Nadolig anfonai focs mawr o 'candies' neu siocledi yn pwyso 14 pwys! Mam yn rhoi un yr un i'r chwech ohonom ac estyn y bocs i ben y seld, allan o'n cyrraedd.

Dychwelodd Wncwl Tom i Gymru ddwywaith ac fe gadwodd gysylltiad gyda'i dylwyth. Er i mi feddwl mynd i'w weld yn Cleveland, bu farw cyn i mi fynd mas yno. Ond fe aeth ei fab Tomi a mi i weld ei fedd. Daeth ton o hiraeth ar 么l wncwl Tom annwyl. Roeddwn i wedi ei adnabod e.

I Ganada, yn y dauddegau, yr aeth Wncwl Jim. Ni ddychwelodd fyth i Gymru, a ni chadwodd gysylltiad gyda Mam. Roedd ganddo gwmni loriau yn cludo coed i'r melinau yn Victoria.

Bu farw yn hen lanc 92 oed ym 1980. Wrth deithio ar Ynys Vancouver, yn nhref Chemainus, cerddais i a'm ffrind Margaret heibio i felin goed. Teimliais ias oer drostaf, fel pe bae rhywun yn fy nilyn ac yn dweud, "Wyt ti ddim yn mynd i chwilio amdanaf?"

Ymhen blynyddoedd, wedi cael manylion o'r Public Trustee yn Vancouver, dyma ddychwelyd i Ganada a chyrraedd mynwent y 'Royal Oak Burial Park.' Yn y swyddfa, cefais fy nghyfeirio at 'Section Q, Plot 14, Grave 18'. "Dyma fi wedi'ch ffeindio chi Wncwl Jim," meddwn wrth roi pot o flodau ar y bedd.

Teimlais dristwch, ond dim hiraeth. Does gen i ddim i gofio amdano ond llun ei fedd. Dau frawd ond dau gymeriad hollol wahanol.

Holi Brenda James:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Ganwyd fi ar fferm unig yn Nhalyllychau ac wedi gadael yr Ysgol Ramadeg, es i weithio mewn Banc yn Rhydaman. Priodi, ac am 41 mlynedd yn rhannu cyfrifoldeb o redeg busnes y gwr.

Rwyf wedi rhoi 45 mlynedd o wasanaeth i Frig芒d Ambiwlans St Ioan, ac yna sefydlu Cwmni Drama Rhos-y-Gar drwy ysgrifennu a chynhyrchu. Rwy'n flaenor yn fy eglwys ac yn cynnal gwasanaethau ar y Suliau mewn capeli gwahanol enwadau.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Am ddau frawd mam a'r ddau mor wahanol - y ddau yn ymfudo - un yn dal cysylltiad a'r llall yn cefnu'n llwyr. Roeddwn am gymharu dau frawd o Gymru yn alltud. Un yn dal i garu ei deulu a Chymru a'r llall yn cefnu ar bawb.

Pa agwedd o'r gweithdy oedd yr un mwyaf gwerthfawr?

Profiad diddorol ac addysgol a dysgu dweud stori hir yn gryno a chynnil.

Release date:

Duration:

3 minutes