Main content

Nanw Roberts - Iah诺 Las诺

Er mor anodd oedd hi i Nanw wireddu'i breuddwyd o gael ceffyl, doedd dim byd o'i le gyda chynllun ei Mam wedi'r cyfan...

Er mor anodd oedd hi i Nanw wireddu'i breuddwyd o gael ceffyl, doedd dim byd o'i le gyda chynllun ei Mam wedi'r cyfan...

Nanw Roberts:

Dwi 'di bod yn dipyn o gowboi erioed.

Reidio ceffylau yn Ty Hen Llangwnad ddechreuodd y peth... a dwad adre bob tro yn swnian isio ceffyl.

"Be' 'nei di 芒 pheth felly?" medda' Mam. "Fasa' well i ti gael mul! Os heli 'di dy br锚s, mi gei di un!"

Wel am dasg! Heblaw am f'ewythr Gruffydd 'swn i byth 'di ei g'neud hi. "Gei di weithio i mi yn carthu'r beudy a ballu," medda' fo.

Ond tra ro'n i'n hel pres, ges i fenthyg Sam, mul unigryw o Abersoch.

Wel dyma i chi f锚t os buodd na un erioed! Ond eto, doedd o'm yn ful i mi.

Eistedd yn y gwely bob nos, yn darllen 'Exchange and Mart' nes ffeindio mul ar werth am bum punt ar hugain... Ac am fod y pwrs yn llawn, roedd yn rhaid i mam a 'nhad gadw at eu gair a n么l y mul.

Gwirionodd fy nhad ar ei ben... a phrynu un arall iddo'i hun. Mi fu Ffred a Prins yn f锚ts mawr efo Sam am hir iawn... a finna y cowboi hapusa' ym Mhen Ll欧n!

Holi Nanw Roberts:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n wreiddiol o Ben Ll欧n ac yn hoffi cynghaneddu ac ysgrifennu caneuon. Rwyf wedi gweithio fel athrawes ail-iaith ond erbyn hyn yn gwneud gwaith marchnata i amryw o gwmniau. Rwy'n hoffi ysgrifennu stor茂au ffantasi i blant a chwarae git芒r clasurol.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Un cipolwg fach ar fy mhlentyndod yw'r ffilm - fy nghariad tuag at fy hoff anifail sef mul! Roeddwn eisiau modd i gofnodi y darn pwysig yma yn fy mywyd. Roedd yn gyfnod braf a chyfle i rannu hwnnw gyda'r byd oedd y stori.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Mwynheuais y cyfle yn fawr iawn- lot o hwyl! Doeddwn i erioed wedi geisio gwneud stori ddigidol o'r blaen - felly menter newydd sbon!

Release date:

Duration:

2 minutes