Main content

Janet Roberts - Taid 'Hello'

Mae Janet Roberts yn edrych yn 么l ar ei phrofiadau yng nghwmni ei thedi - y tedi a dderbyniodd wrth dyn arbennig, ei thad.

Mae Janet Roberts yn edrych yn 么l ar ei phrofiadau yng nghwmni ei thedi - y tedi a dderbyniodd wrth dyn arbennig, ei thad.

Janet Roberts

Mae gan y plant ddau daid. Taid Helo oedd un - ffarmwr rhadlon braf o flaenor Methodus o Ben Ll欧n a Chymro. Taid Hello oedd y llall - ac roedd ei gefndir a'i iaith yn go wahanol i un Taid Helo.

Sais o Lannau Merswy oedd ef, fy nhad ac fe symudodd i Ddolgellau ar hap bron ac aros yno. Priodi 芒 Mam yn ddiweddarach ac mi brynodd Dad y tedi yma i mi cyn i mi gael fy ngeni hyd yn oed!

Mi awn innau 芒'r Tedi i'm canlyn i bob man, hwnnw'n swatio'n saff dan fy nghesail. Mi o'n i'n prynu anrhegion i Dad hefyd ond pob 'Dolig yr un oedd y dewis. Peli golff wedi'u pacio'n fl锚r ac 'Old Spice'. Dad druan yn gorfod dyfalu bob bore 'Dolig beth oedd yr anrhegion - ond doedd hi fawr o gamp nac o syrpreis iddo!

Ond mi fynnodd Dad ddefnyddio 'Old Spice' ar hyd y blynyddoedd er i mi geisio'i ddarbwyllo pan o'n i'n h欧n iddo ddefnyddio rhywbeth ychydig yn fwy modern!

Mi fuodd o'n ffyddlon i oglau melys y sbeis lenwi'r ystafell 'molchi wrth iddo baratoi i fynd allan. A'r un oglau cyfarwydd oedd yn fy nghroesawu i adref bob amser.

Bu farw Dad dros chwe' mlynedd yn 么l bellach a mawr yw'r hiraeth ar ei 么l. Dwi'n cofio n么l ei fag o'r Ysbyty. Cyrraedd adra', gosod y bag ar y gwely, ei agor yn araf ac yn syth, llenwodd fy myd ag oglau melys 'Old Spice' unwaith eto. Na, doedd Dad ddim yno ac eto roedd ei hogla' arbennig yno.

Newidiodd Dad fawr ddim ar ei arferion ar hyd ei oes ac yn sicr Sais oedd o i'r diwedd, a hynny ar 么l hanner can mlynedd yn Nolgellau.

Ond roedd yr 'Hello' yma yn fodlon i mi a'r plant fod yn Helo, a diolch iddo fo am hynny.

Gwatchiwch allan Ant & Dec, byddai'n dwyn eich swyddi cyn bo hir!

Holi Janet Roberts:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwyf yn gyn-athrawes a mam i dair o ferched. Bellach, rwy'n gweithio fel cydlynydd stiwdio i'r 主播大秀 ym Mangor.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'r stori am fy nhad - taid 'hello' -chwedl y plant. Roedd hefyd yn hoff o 'Old Spice' ac mae'r stori yn rhyw deyrnged fach iddo fo.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Roeddwn i wedi mwynhau'r profiad a wnes i ddysgu llawer. Roedd y profiad braidd yn anodd ar adegau gan fod adrodd y stori yma wedi dod 芒 chymaint o atgofion byw yn 么l i mi.

Release date:

Duration:

3 minutes