Main content

Rhys Owain Jones - Efydd

Wedi ymarfer caled, mae Rhys yn ymfalch茂o yn ei lwyddiant ar y trac athletau hyd yn hyn. Ond mae un ras eto i'w hennill...

Wedi ymarfer caled, mae Rhys yn ymfalch茂o yn ei lwyddiant ar y trac athletau hyd yn hyn. Ond mae un ras eto i'w hennill...

Rhys Owain Jones:

Dwy flynedd o chwysi ar gyfer un ras; un cyfle. Dwy flynedd o ymarfer caled bedair gwaith yr wythnos yn ddi-ffael, ym mhob math o dywydd a dilyn cyfarwyddiadau llym yr hyfforddwr di-dostur.

Poen a hyd yn oed yn chwydu ambell waith... a'r cyfan ar gyfer ras a fyddai'n parhau ond munud yn unig.

Yma, yn stadiwm athletau Cwmbr芒n, sefydlwyd gyrfaoedd nifer o arwyr Cymru - Colin Jackson, Lynn Davies ac Iwan Thomas. A dyma fi, ymysg yr holl hanes, yr holl lwyddiant, 'Rhys Jones, Carmarthen Harriers, Lane 4.' Yna, wrth i mi setlo i mewn i'r blocs, sylweddolais arwyddocad y foment hon.

Ers yn grwt deg oed, mae athletau wedi bod yn ran mor amlwg o'm mywyd ac wedi dylanwadu ar fy nghymeriad a'r ffordd rwy'n byw. Atgoffa fy hun o hyn ar foreau oer y gaeaf allan ar y trac wrth i mi frwydro yn erbyn y glaw. Y temtasiwn i roi'r gorau i'r holl boen a redai trwy fy nghorff, wrth i mi geisio cyflawni 'one more 400m and we'll finish.'

Cyffro, pryder, canolbwyntio, penderfynol - ffrwydrais o'r blocs a rhedeg fel y diawl! 'Eight into three won't go'. Brwydrais yn erbyn y lleill i gipio'r fedal efydd a chyrraedd yr uchafbwynt. Daeth gw锚n i fy ngwyneb wth i mi weld y canlyniad.

Os na fyddaf yn llwyddo ennill eto ar y trac, rwy'n hapus efo'r hyn rwyf wedi llwyddo gwneud ac yn ddiolchgar am gyfeillgarwch ac amynedd fy hyfforddwr, Ossie Morgan. Ond, ni chredaf fod fy nghymeriad penderfynol yn gyfforddus efo rhoi'r gorau i athletau - 'Bring on the Olympics!'

Holi Rhys Owain Jones:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n 17 mlwydd oed ac wedi bod yn gwneud athletau ers oeddwn yn 11. Dechreuodd fy niddordeb mewn athletau wedi i mi weld Michael Johnson a Merlene Ottey yn y Gemau Olympaidd yn 1996.

Fe wnes i ddechrau ar ymarfer athletau i Harriers Dyffryn Aman, cyn symud i Harriers Caerfyrddin.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae'r stori yn s么n am fy mhrif lwyddiant ym myd athletau; sef ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Cymreig dros 400m dros y clwydi.

Wedi cynrychioli Gorllewin Cymru a dod yn ail ar ddau achlysur ym mhencampwriaethau Gorllewin Cymru, ond medal cenedlaethol oedd ar 么l i ennill.

Mae'r stori yn s么n am yr ymarfer caled cyn y ras a gwaith caled fy hyfforddwr, Ossie Morgan hefyd.

Y rheswm am ddewis y stori hon oedd oherwydd dyma fy llwyddiant mwyaf mewn unrhyw faes hyd yma. Roeddwn hefyd eisiau diolch i fy hyfforddwr am yr amser a roddodd i wella fy mherfformiad.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Roedd y profiad yn un gwerthfawr iawn ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan. Roedd cael y profiad o weithio gyda'r tim a dysgu nifer o sgiliau newydd yn un gwerthfawr iawn. Roedd amrywiaeth y gwaith hefyd yn dda. Diolch am y cyfle!

Release date:

Duration:

2 minutes