Main content

Vivian Parry-Williams - Gweld llun, clywed llais

Ni welodd Vivian lun o'i dad tan yn ddiweddar. Ond yn ddiarwybod i Vivian a'i wraig, mae perthynas agos arall wedi gweithio yn chwareli y Rhiwbach hefyd.

Ni welodd Vivian lun o'i dad tan yn ddiweddar. Ond yn ddiarwybod i Vivian a'i wraig, mae perthynas agos arall wedi gweithio yn chwareli y Rhiwbach hefyd.

Vivian Parry-Williams:

Hen lun o rai o weithiwrs chwarel Rhiwbach yn 1938 ysgogodd y stori hon. Erbyn heddiw dim ond adfeilion sydd ar 么l yno, ond ar un adeg roedd yna gymuned o deuluoedd yn trigo yn Rhiwbach.

Dyma bentre' chwarel tua mil a hanner o droedfeddi uwchben Cwm Penmachno. Chwarel fwya' plwy' Penmachno oedd hon, gyda dros 200 o bobl yn cael eu cyflogi ynddi pan oedd yn ei hanterth.

Codwyd tai ar gyfer teuluoedd a 'barricks' i gartrefi rai o'r chwarelwyr a ddaethant i'r chwarel ar fore dydd Llun, gyda'u pecyn bwyd am yr wythnos.

Agorwyd ysgol ar gyfer y dau ddwsin o ddisgyblion Rhiwbach yn 1908. Penodwyd Kate Hughes o Flaenau Ffestiniog yn Ysgol Feistres a theithiau i'r ysgol drwy gael ei chario i fyny'r 'incl锚ns' am dair milltir o'r Blaenau mewn wagenni lechi gweigion.

Gyda'r nos, teithiai adref trwy gerdded i Chwarel Craig-Ddu cyfagos a reidio'r teclyn unigryw hwnnw - y car gwyllt, tebyg i 'skateboard' heddiw i lawr cledrau'r 'incl锚ns' at y Manod. Dyna i chi ymroddiad!

Ma' Rhiwbach yn agos at 'y nghalon, ond ma' un rheswm penodol am hynny. Er na chofiai mohono, yma gweithiai 'nhad - William Huw. Bu farw'n 51 oed yn 1941, pan oeddwn i - t卯n y nyth o wyth o blant - yn ddim ond 15 mis oed.

Welais i 'rioed lun ohono tan tua 15 mlynedd yn 么l pan ymddangosodd lun rhai o weithiwrs Rhiwbach, 1938, yn y papur bro. Ymysg y naw ar hugain yn y llun, oedd 'y nhad.

Dangosodd y wraig 'cw y llun i'w Mam a chael gwybod ganddi fod ei thad hithau, Moss Wyatt, bu farw'n 1954 hefyd yn y llun.

Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd gweld yr unig lun oedd gennym o'r ddau - un o Benmachno a'r llall o'r 'Stiniog, yn gyd-weithiwrs yn Rhiwbach, yn hollol ddiarwybod i ni.

Canodd corn gwaith Rhiwbach am y tro olaf yn 1953, ond erys ei enw ar y cartref yn y Blaenau - Rhiwbach - er c么f am y ddau dad.

Holi Vivian:

Allwch chi ddweud rhwyfaint amdano'ch hun?

Fe'm ganed yn 1940. Wedi gadael Ysgol Penmachno yn 15 oed heb ddim cymhwysterau, fe weithiais o swydd i swydd. Yna wnes i ymddeol yn gynnar yn 1994 o Bwerdy Tanygrisiau wedi 27 mlynedd yno.

Rwy'n briod 芒 Beryl ers 1966, yn dad i dri a thaid i bedwar. Wedi gorffen gweithio, astudiais yng Ngholeg Harlech cyn mynd mlaen i raddio mewn Hanes a Hanes Cymru o Brifysgol Cymru, Bangor yn 1998 - yn 58 oed!

Mae gennyf diddordeb mewn hanes, teithio, teulu, chwaraeon a cymdeithasu. Rwy'n edrych ymlaen am y codiad cyflog mwya' erioed - pensiwn y st芒d yn 2005!

Am beth mae eich stori yn s么n?

Ychydig o hanes chwarel Rhiwbach, Cwm Penmachno, ac am gyd-ddigwyddiad rhyfeddol yn ymwneud a 'nhad a thad fy ngwraig, Beryl.

Mae'r stori yma'n bwysig i mi am ei bod yn rhan bwysig o fy etifeddiaeth ac oherwydd ei bod yn ddiddorol - yn fy ngolwg i o leia'!

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Arbennig. Diddorol. Gwych. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y brosiect.

Release date:

Duration:

3 minutes