Main content

Jessica Grey - Pte. 251047729

Roedd Jessica Grey yn gwybod y byddai'n rhaid i'w brawd mawr fynd allan i'r rhyfel yn Irac. Ond doedd hi ddim yn gwybod sut effaith fyddai hynny'n ei gael arni hi a'i theulu.

Roedd Jessica yn gwybod y byddai'n rhaid i'w brawd mawr fynd allan i'r rhyfel yn Irac. Ond doedd hi ddim yn gwybod sut effaith fyddai hynny'n ei gael arni hi a'i theulu.

Jessica Grey:

Pte. NJ Grey 251047729, fy mrawd mawr Nic. Ym mis Chwefror eleni gafodd ei ddrafftio mewn i Kuwait, er mwyn paratoi ar gyfer Rhyfel Irac.

O'n i'n gwybod ei fod e'n gorfod mynd, ond pan ffoniodd Dad i ddweud ei fod e'n mynd allan gyda'r '16th Air Assault Regiment', ces i sioc.

O'n i'n dost ar y pryd 'da 'glandular fever', ond dwi'n cofio dihuno a Dad yn dweud wrtha'i bod rhyfel wedi dechre' a mynd lawr y grisiau i wylio 'Sky News' gyda Mam a Dad.

Jyst cyn i Nic fynd mas yna, roedd y ddau ohonon ni 'di cwympo mas ac o'n i'n teimlo'n euog ein bod ni wedi dadlau am rywbeth mor ddibwys.

Rwy'n cofio gweld y lluniau o Baghdad yn cael ei fomio, a ddim yn gwybod lle oedd Nic. Profiad gwaetha' o'dd clywed bod aelod o'i Gatrawd wedi cael ei ladd, a gorfod aros am dau ddiwrnod cyn clywed bod Nic yn saff. Teimlo'n falch ond wedyn teimlo'n lletchwith bod rhywun arall wedi marw.

Roedd Alan, fy mrawd bach, yn dweud wrth bawb yn yr ysgol bod Nic fel 'Action Man', ond do'dd Lucy, fy chwaer fach, ddim ishe gwbod.

Wedi tri mis o fecso, daeth Nick adre a chawson ni barti mawr i ddathlu ei bod e'n saff. Daeth fy Anti yr holl ffordd o'r Amerig fel sypreis ac roedd y teulu i gyd mor falch o Nic.

Ers iddo ddod adre, mae e' wedi cael ei ddyrchafu i Lance Corporal. Dwi mor falch ohono, a dyw Nic a fi heb gweryla ers hynny!

Holi Jessica:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n astudio tri phwnc ar gyfer Lefel A ar hyn o bryd ac rwy'n gobeithio mynd i Brifysgol blwyddyn nesaf i astudio'r Cyfryngau.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae fy stori yn disgrifio fy mrawd hynaf sydd wedi bod yn Irac yn ddiweddar efo'r 16th Air Assault Brigade. Rwy'n disgrifio sut brofiad oedd hyn i ni fel teulu pan oedd Nic mas yn Irac ac fel oedden ni'n teimlo pan ddychwelodd e adre.

Roedd y rhyfel yn newyddion pwysig ar draws y byd, ond roedden ni'n gweld y rhyfel o safbwynt gwahanol i bobl eraill.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Dysgais ffordd wahanol o gyflwyno fy emosiynau a theimladau trwy wneud y ffilm. Hefyd, dysgais sgiliau gweithio fel grwp.

Release date:

Duration:

2 minutes