Main content

Emily Evans - T欧 Gwyn

Mae Emily Evans yn s么n am yr atgofion a ddaw yn 么l iddi, wrth gerdded trwy gartref ei theulu, Gwynfryn.

"Ro'n i gyd yn meddwl bo' ni'n tipyn o b锚bs, gyda'n gwalltiau perm cyrliog..."

Mae Emily Evans yn s么n am yr atgofion a ddaw yn 么l iddi, wrth gerdded trwy gartref ei theulu, T欧 Gwyn.

Holi Emily Evans:

Am beth mae eich stori yn s么n Emily?

Rydw i'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd bellach, a phan rwy'n mynd yn 么l adref i weld fy rhieni, rwy'n hiraethu yn fawr am yr amser a wariais yng nghartref fy nheulu yn Rhydaman.

Mae gen i atgofion braf iawn o fyw yno ac mae'r dynfa i'r lle dal 'da fi. Dyma'r hyn yr oeddwn yn ceisio ei ddal o fewn y stori ddigidol. Fel y soniais yn y stori, petai'r t欧 ond yn gallu siarad!

Gobeithiaf fod fy stori yn ceisio dal rhywfaint o fy atgofion i yn y cartref, ac yn ddogfen o'm mhrofiad i o fyw 'na.

Roedd yn ddewis hawdd i mi wneud y stori arbennig yma oherwydd fod y lle mor brydferth, a gan mai ein teuluoedd yw'r pethe' pwysica' i nifer o bobl. Y t欧 yma - Gwynfryn, yw'n calon ni fel teulu.

Sut y gwneloch chi fwynhau'r gweithdy?

Wnes i fwynhau'r profiad yn fawr iawn. Roeddwn i eisoes yn gwybod eitha' tipyn am straeon digidol o edrych ar y wefan Saesneg, ond doedd e' ddim yn beth ro'n i wedi disgwyl o gwbl!

Roedd e'n brofiad ffantastig. Roedd safon y cymorth ges i gan y t卯m a'r offer oedd ar gael i ni yn arbennig.

Mwynheais greu y stori yn fawr iawn, a chyfarwyddo ymddangosiad y stori ar adegau pan oedd y technegau yn rhy anodd i mi wneud ar ben fy hun.

Y rhan gorau, (ac rwy'n siwr fod pawb yn gweud hyn), oedd cwrdd 芒 phobl eraill. Mae'n amlwg fod pawb oedd yn y gweithdy yn gwerthfawrogi straeon ei gilydd cymaint 芒'u stori ddigidol ei hunain.

Release date:

Duration:

3 minutes