Main content

Eleri Retallick - Clirio'r Cwpwrte

Mae atgofion o'r ceffyl pren mor fyw heddiw ag yr oedd pan fu Eleri Retallick yn ei farchogaeth yn blentyn.

"Fe ddes o hyd i'r hen geffyl pren siglo - heb mwng na chwt erbyn hyn..."

Mae atgofion o'r ceffyl pren mor fyw heddiw ag yr oedd pan fu Eleri yn ei farchogaeth.

Eleri Retallick

"Boring Women have Clean Houses." Rwy'n casau clanhau. Dim mod i'n byw mewn lle brwnt! Ond rwy'n casau'r amser rwy'n treulio ar lanhau, lle gallwn i fod yn gwneud rhywbeth arall - coginio, darllen... garddio.

Ar hyn o bryd hefyd rwy'n helpu Dad. Chi'n gweld fu farw Mam a nawr mae rhaid troi'r cwpwrte allan. Na jobyn!

Fe ddes i o hyd i'r hen geffyl pren siglo - heb mwng na chwt erbyn hyn. Rwy'n cofio am ddyddiau fy mhlentyndod yn siglo ar yr hen geffyl o flaen y teledu yn gwylio'r rhaglen 'Rawhide' . Pob tro clywaf g芒n y rhaglen ar y Radio, mae'n dod 芒 melys atgofion fy mhlentyndod yn 么l i mi.

Roeddwn yn marchogaeth yr hen geffyl siglo 芒 shwt egni, fe fuaswn yn cwmpo n么l i mreichiau'n nhad, oedd yn sefyll tu 么l!

"Gwna'n siwr ei fod hi ddim yn cael niwed," meddai Mam. Dyna pam cafodd y "rubber stoppers" eu rhoi ar draed 么l y ceffyl, i wneud yn siwr fuaswn i ddim yn moelid n么l.

Agor cwpwrdd arall. Gweld ei hoff ffrog "bob dydd" fel byddai hi'n ei alw. Mae'r ffrog yn gysylltedig 芒 Mam yn y gegin. Mam wastad 芒 phryd o fwyd ar y bwrdd, wastad 芒 gair o gyngor call.

Ffrog arall yn gysylltedig 芒'm mhriodas a Mam mor falch yn ei gwisg orau.

Agor dr芒r arall a gweld coler Bonnie - fy nghocker spaniel - yr hen ffrind ufudd. Fu farw Bonnie yr un flwyddyn 芒 Mam. Cymeriad o ast!

Mae'r ddwy gyda'i gilydd nawr. Y llais a'r cyfarthad wedi distewi pellach.

Dyw gwagio'r cwpwrte ddim yn rhwydd - ond mae'n amhosib cadw popbeth. Er bydd ambell i beth yn mynd i'r Siop Elusen, mi fydd fy atgofion melys wastad yn cadw cwmni 芒'r hen geffyl siglo.

Holi Eleri:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n gweithio fel Rheolwraig Theatr y Glowyr yn Rhydaman. Rwy'n briod ac yn byw ym Mhencader. Rwy'n hoff o fy ngwaith bob dydd yn y cyfryngau ond mae fy nheulu yn bwysig hefyd.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'r stori am y cyfnod yn fy mywyd - sef y flwyddyn 2000 - pan gollais fy ddwy ffrind orau. Mae'r stori yn un bwysig iawn i mi.

Pa agwedd o'r gweithdy oedd yr un mwyaf gwerthfawr?

Gwych. Profiad gwefreiddiol. T卯m gret, cwmni da a straeon diddorol gan bawb i'w hadrodd. Os cewch y cyfle ewch amdani i wneud eich stori ddigidol eich hun. Profiad bythgofiadwy.

Release date:

Duration:

3 minutes