Main content

Idris Reynolds - Rhaglen Geraint Lloyd

Mae cyfle da i gyfarch gwell
Ar Radio Cymru’r traffyrdd pell.

Ceir sgwrs a chân o dan y sêr
Yng nwasanaethau De La Mere

Ac ar y daith mae’n werth cael pôs
Wrth yrru drwy donfeddi’r nos.

Fe wyddom ni fod gyrrwyr Mans
Yn tiwnio mewn ar auto-bahns.

Bydd llais o’r stiwdio’n gwmni triw
Tu fas i Calais yn y ciw

Ac ar yr awyr clywir sôn
Am Gymry eraill ar y lôn

Yn glustiau i gyd, a’r droed i lawr
Er mwyn cael cyrraedd torriad gwawr.

Cawn ninnau brofi peth o’r sbri
Sy’ nghlwm wrth drwydded HGV,

Cawn wynto’r olew fesul cais
A newid gêrs rhwng pob un llais

Cans bois y lorris o bob oed
Sy’n llywio rhaglen Geraint Lloyd

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

55 eiliad

Daw'r clip hwn o