Main content

Geraint Lloyd

Mae rhaglen Geraint Lloyd wedi denu gr诺p o wrandawyr gwahanol, megis datblygiad naturiol Clwb Bois y Loris.

Ganwyd Geraint yn Lledrod, ger Aberystwyth. Fe fynychodd Ysgol Gynradd Lledrod ac yna Ysgol Tregaron.

Ymunodd ef 芒 Radio Cymru ym mis Ebrill 1997, wedi bod yn gweithio ar Radio Ceredigion am bum mlynedd.

Meddai Geraint mai un o brif uchafbwyntiau gweithio ar Radio Cymru yw'r cyfle i siarad 芒'r gynulleidfa, a thrwy radio y mae'n bosib cysylltu ac agos谩u at y cyhoedd.

Mae'r rhaglen yn enwog am ei chystadleuaeth hefyd. 'Dwi'n gwybod ble mae pob ciosg yng Nghymru!'

Holi Geraint Lloyd

Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?

Torri'r lawnt! A glasiaid o win coch, ond dim yr un pryd. Fel mae'n digwydd mae gyda ni lawnt go fawr, wel cae! Ac 'yf fi wrth fy modd yn torri porfa ar ddiwrnod braf ar fy nhractor bach. Does dim arogl gwell na porfa ffresh wedi'i dorri - dod ag atgofion o dorri gwair pan yn blentyn. Ond gyda'r nos fel arfer ar 么l rhaglen brysur, glasiaid bach o win coch o Awstralia.

Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?

Cuddio pysgodyn ar exhaust fan unwaith i ddal cydweithiwr allan gan ei fod yn mynd dan groen pawb. Ond ar y diwrnod hynny fe benderfynodd y boss fynd ar fan allan ar daith go hir, doedd e ddim yn hapus iawn pan ddaeth nol - bu'r fan yn drewi am fisoedd!

Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?

The Apprentice. 'Yf fi wrth fy modd yn gwylio'r cystadleuwyr yn gwneud llanast llwyr o bob her, yna canmol ei gilydd am wneud mor dda a'r funud nesa bradychu eu cydweithwyr er mwyn achub ei hun... Wedyn yr eisin ar y gacen yw clywed Sir Alan yn tynnu nhw'n ddarnau. Gwych.

Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?

笔锚濒-诲谤辞别诲.

Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?

Ar 么l dros ddeugain mlynedd 'fi'n credu ei bod hi'n rhy hwyr i newid dim byd bellach.

Pe na bai ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?

Torri lawnt ar gwrs golff! Neu bod yn rheolwr t卯m rasio ceir, fel cyn fecanic ac hefyd yn un sydd wedi cystadlu mewn sawl math o rasio dros y blynyddoedd, 'yf fi wrth fy modd yng nghanol y swn, yr arogl olew a phetrol, y cyffro ar perygl.

Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?

Wine Gums. Pan yn Ysgol Uwchradd Tregaron roedd rhaid mynd lawr i Siop H么p bob amser cinio i gael Wine Gums, neu unrhyw beth melys a dweud y gwir!!

Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?

Yn y byd darlledu pobol fel Hywel Gwynfryn a Dai Jones Llanilar, 'yf fi'n edmygu y ffordd maen nhw yn siarad gyda phobol o bob cefndir.

Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?

Ambell i grys lliwgar o'r Wythdegau, ych a fi! Ond trwy lwc, 'yn ni newydd symud t欧 felly mae'r hen ddillad wedi cael mynd.

Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?

Unrhyw le yn edrych allan ar Fae Ceredigion ar noson o haf gyda'r haul yn machlud.

Petai ti'n ennill y loteri, beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?

Eistedd lawr! Yna prynu Ferrari, a wedyn rhoi'r gweddill i Anna, a Tomos a Carys y plant, er mwyn i fi gael chwarae yn y Ferrari!

Pwy fyddet ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?

Ddyle ni falle dewis un o s锚r Hollywood, ond falle bydden nhw'n yn cael bach o broblem gyda'r acen, felly beth am Rhys Ap Hywel? Mae'n gardi yn fab farm fel fi, ac yn fy marn i yn un o'n actorion ifanc gore ni yng Nghymru ar hyn o bryd.