Main content

Siswrn Dafydd Williams - Esyllt Nest Roberts

Cerdd gan Bardd y Mis ar raglen Geraint Lloyd - Mehefin 2017

Siswrn Dafydd Williams, Aberystwyth
(G诺r ifanc a aeth ar goll ar y paith ym Mhatagonia, oriau鈥檔 unig ar 么l iddo gamu oddi ar fwrdd y Mimosa. Roedd o'n un o adlonwyr ffraeth y fordaith. Daethpwyd o hyd i鈥檞 gorff ger Llyn Mawr rai blynyddoedd yn ddiweddarach a鈥檌 adnabod am fod ei siswrn teiliwr ar ei weddillion. Hyd heddiw gelwir y lle hwnnw yn Bant yr Esgyrn.)

Dangosa imi, lefnyn bach,
y ffordd at afon Camwy鈥檔 fyw ac iach;
anela flaen dy ddwygoes fain
i 鈥檔hywys gam wrth gam drwy鈥檙 llwyni drain.

Mi fapiwn lwybrau dros y paith
芒鈥檛h gwmpawd arian, hyd at ben y daith,
nes nyddu patrwm cywrain, clir
drwy frethyn bryniau鈥檙 m么r a thonnau鈥檙 tir.

Datoda bwythau鈥檙 henwlad bell,
mi frodiwn wedyn Wladfa newydd, well;
鈥淔farwel i Aber鈥︹, codaf law
ar Ben Maes Glas a鈥檙 castell hwnnw draw!

Cei rwygo鈥檙 bogail ar ei hyd
(mae rheitiach mynwes yma 鈥檓hen draw鈥檙 byd!)
a chlymwn wreiddiau newydd sbon
yng nghynfas l芒n y Batagonia hon.

Dangosa imi, lefnyn bach,
pa ffordd i gyrraedd afon Camwy鈥檔 iach;
paid torri hyd fy nhaith fan hyn
rhag i鈥檙 hen gychwr hwylio cyn y bore gwyn.

Esyllt Nest Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o