Main content

Ceri Isfryn, Cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George

Ceri Isfryn , Cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yn trafod gweithio ar y gyfres.

Ceri Isfryn , Cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi Ö÷²¥´óÐã - Watchdog Rogue Traders, a Panorama.

Mynychodd Ysgol gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio’n sioeau’r ysgol oedd yn brofiad gwerthfawr. Mae Ceri mor falch ei bod wedi mynd i ysgol a oedd efo disgyblion a oedd yn dod o gefndiroedd mor wahanol. Mae’n credu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a traws doriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw.
Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg. Dim ond 5 awr o ddarlithoedd roedd hi’n ei gael yr wythnos. Felly gyda’r holl amser ar ei dwylo dechreuodd Ceri sgwennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Roedd criw yn cyhoeddi’r papur yn wythnosol.
Roedd diddordeb ganddi erioed mewn Newyddiaduraeth . Pan oedd hi yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda’r North Wales Chronicle yn eu swyddfa ym Mangor, ac yn ystod gwyliau’r haf ar ôl ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd i Ghana am fis a hithau ond yn 19 oed.

Mae hi wedi gweithio ar raglenni teledu am Brexit, rhaglen am Trump - Conspiracy Theories, Facebook ac yn dilyn ymosodiad terfysgol Paris 2015 bu Ceri’n gweithio ar raglen awr yn edrych ar derfysgaeth yn Ewrop ac yr achos o Derfysgaeth yn Christchurch, Seland Newydd yn 2019. Bu hefyd yn gweithio ar raglen Panorama, pam ofynnwyd iddi a fyddai'n fodlon mynd 'undercover' i weithio mewn cartref yr Henoed yn Llundain.
Mae Ceri yn sôn am y profiadau yma a’r effaith mae wedi ei gael arni. Mae hi hefyd yn dewis ambell i gan, Eden a Maharishi yn rai

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

7 o funudau