Main content

Alun Roberts

Gellir gwrando ar John ac Alun yn cyflwyno eu rhaglen wythnosol bob nos Sul ar 主播大秀 Radio Cymru.

Holi Alun Roberts

Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Glasiad (neu ddau, neu hyd yn oed dri) o 'Malt' da.

Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Dod 'rownd' ar 么l llawdriniaeth yn sefyll yn noethlymun ar ben y gwely'n bytheirio pawb o'm cwmpas - dwi ddim yn cofio gwneud hynny fy hun ond mi roedd yna dystion yn anffodus.

Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
The Apprentice - sydd newydd ddod i ben yn anffodus.

Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Unrhyw un o'r rhai ar linellau X Factor.

Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Bod yn 20 oed eto.

Oes gen ti lysenw?
Robaits a P么st.

Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
'Sherbet Fountain'.

Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Mae'n newid o ddydd i ddydd yn dibynnu ar beth dwi'n ei wneud a sut dwi'n teimlo ar y pryd.

Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Siwt wen a brynais yn y 'sales' flynyddoedd yn 么l - ac erioed wedi cael yr hyder i'w gwisgo - ond mae'n dal yno am ryw reswm.

Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Ar ben Garnfadryn neu Ynys Enlli ar ddiwrnod braf o haf.

Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
N么l y siec.