Main content

Vaughan Roderick

Golygydd Materion Cymreig y Ö÷²¥´óÐã, a chyflwynydd Dau o'r Bae.

a deifiol Vaughan Roderick am y byd gwleidyddol ar ei flog.

A chofiwch danysgrifio i'w i gael y rhifyn diweddaraf o Dau o'r Bae yn ogystal â chyfweliadau ac eitemau unigryw.

Holi Vaughan Roderick

Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Peidio codi.

Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Smôc wedi swper.

Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Fe ai â hwnna i'r bedd 'da fi!

Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Emmerdale.

Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Fy oedran - byse un rhywbeth rhwng 20 a 40 yn siwtio'n iawn!

Oes gen ti lysenw?
Dim hyd y gwn i. Efallai bod 'na rai tu ôl i nghefn i.

Pe na fyddet ti'n cyflwyno Dau o'r Bae ac CF99, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
'Sgota a smyglo yn Batu Lau, Selangor.

Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Roc Rhif Wyth Pwllheli.

Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Neb. Dwi'n ormod o sinig.

Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Cyfres gyflawn o deis eisteddfodau'r wythdegau.

Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Ynys Rhonech (Steepholme) ym Môr Hafren sydd i'w gweld o Fae Caerdydd.

Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Cael harten.

Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Meryl Streep.