Main content

Elin Manahan Thomas

Mae Elin yn cyflwyno ar fore Dydd Sul ar Radio Cymru.

Soprano yw Elin, sy'n enedigol o Abertawe, a syrthiodd mewn cariad 芒 cherddoriaeth Bach yn ifanc iawn.

Dechreuodd ganu mewn amryw o gorau tra yn yr ysgol cyn ennill ysgoloriaeth gorawl i Goleg Clare, Caergrawnt.

Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn astudiaethau Engl-Sacson, Norseg a Cheltaidd. Er cael cyfle i astudio ar gyfer doctoriaeth yng Nghaergrawnt, aeth ymlaen yn lle hynny i astudio cwrs 么l-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol.

Cyrhaeddodd ei halbwm gyntaf, Eternal Light, rif dau yn y siartiau clasurol a chafodd Elin ei henwebu ar gyfer gwobr Bafta Cymru am y cyflwynydd newydd gorau yn 2007.