主播大秀

Bandiau yn chwilio am bleidleisiau

Brwydr y Bandiau 2010

Anghofiwch yr Etholiad, bydd pleidleisio gwyllt yn digwydd dros ffonau ledled Cymru nos Fercher yma (Ebrill 21) gyda Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2010.

Wedi wythnosau o frwydro cerddorol, tri band sydd bellach yn sefyll ar gyfer y frwydr olaf un, a bydd y tri yn dibynnu ar bleidlais y gwrandawyr i benderfynu pwy ddaw i'r brig.

Darlledir y rownd derfynol yn fyw nos Fercher (Ebrill 21, 主播大秀 Radio Cymru) lle bydd y gwrandawyr yn cael cyfle i glywed traciau a recordiwyd yn arbennig mewn stiwdio broffesiynol a chael clywed barn y beirniaid - y DJ Bethan Elfyn, y cerddor Rhodri Llwyd Morgan, a'r cyflwynydd, DJ a cherddor Ian Cottrell. Magi Dodd sy'n cyflwyno'r rhaglen.

Y bandiau llwyddiannus yw:

The Unknown o Ysgol Penweddig, Ysgol Penglais a Phrifysgol Aberystwyth. Yr aelodau yw Twm Dylan (17), Amane Suganami (16), Nick Morgan (19), Huw Evans (17), Tomos Glyn (16), Ryan Rabey (16) a Tom Wells (17).

Yr Angen o Ysgol Gyfun Gwyr. Yr aelodau yw Jac Davies (17), Jamie Price (18), David Williams (17) a Gareth Jones (17).

Cyfoes o Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin. Yr aelodau yw Dafydd Jenkins (17), Steffan Hughes (18), Daniel Owen (18), Aled Evans (18).

"Unwaith eto mae'r safon wedi fy syfrdanu ac unwaith eto mae'r amrywiaeth o gerddoriaeth yn wych," meddai Rhodri Llwyd Morgan, un o'r beirniad. "Mae'r rownd derfynol yn cynnig her arbennig i'r tri gr诺p drwy ofyn iddyn nhw harneisio'r perfformiad a rhoi i ni sglein y stiwdio wrth recordio'u caneuon am y tro cyntaf mewn stiwdio broffesiynol.

"Mae'r gystadleuaeth wedi hen ennill ei phlwyf fel ffordd o gefnogi doniau newydd yn y S卯n Gymraeg."

Mae'r wobr yn cynnwys

  • recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru
  • ymddangos ar raglen deledu Uned 5 ar S4C
  • perfformio yn un o wyliau mawr yr haf
  • perfformio ar lwyfan y Pentre Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol
  • chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
  • perfformio ar Daith Ysgolion C2 2010

Bydd manylion a rhifau ffon i bleidleisio yn cael eu datgelu ar y rhaglen nos Fercher.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.