主播大秀

Bys ar y Pyls

Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod 芒'r newyddion diweddaraf o'r s卯n gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...Griff Lynch oedd yn gwneud gwaith Jeni yr wythnos hon.

Catrin Southall yn cyfranu i albym newydd y Manic Street Preachers
Roedd Catrin o'r band Sal ar rhaglen Daf a Caryl bore 'ma yn son am ei gwaith ar albym newydd y Manic Street Preachers , Postcards from a Young Man. Wedi I Nicky Wire o'r band glywed gwaith Catrin ar un o ganeuon The Afternoons, gofynodd y band iddi wneud trefniant lleisiau cor ar gyfer rhai o'i caneuon nhw. Roedd hi'n gyfrifol am drefniant lleisiau ar pedwar o ganeuon yr albym. Mae'r albym Postcards from a Young Man ar gael nawr.
Manylion pellach: Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 10 (parhad)
Mae'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 10 mlwydd oed eleni.Cynhaliwyd dathliadau Caerdydd yng Nghanolfan y Mileniwm ar ddechrau'r mis, a mae dathliadau penblwydd y Gogledd bellach wedi eu cadarnhau gyda cyfres o weithdai a gigiau yn cael eu cynnal yn Galeri, Caernarfon ar Iau 7 a Gwener 8 Hydref.
Iau Hydref 7
Gweithdy Miwsig Byw
4pm Galeri, Caernarfon I drefnwyr gigs, hyrwyddwyr gwyliau, cyngherddau neu reolwyr lleoliadau'r dyfodol neu'r presennol:Awr o wybodaeth a syniadau am gynnal gigs, gwyliau a digwyddiadau byw. I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl `Gweithdy Miwsig Byw`.
Ymchwil SCG i gerddoriaeth fyw yng Nghymru

5pm Galeri, Caernarfon Mae SCG yn ymchwilio a hel gwybodaeth am y sin fyw yng Nghymru gyda'r n么d o ddatblgyu strategaeth hir-dymor i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r sector fyw. Os ydych yn ymwneud a cherddoriaeth fyw yng Nghymru yna ymunwch a ni i ddarganfod mwy a chynnig eich canfyddiadau a'ch barn. I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl `Ymchwil Miwsig Byw`.
Gig Galeri
7pm - Bar, Galeri, Caernarfon Yucatan#
Gwener Hydref 8

Cyfleon yng Nghymru a thramor

12pm Galeri, Caernarfon Hoffech fynd a'ch cerddoriaeth dramor? Eisiau darganfod mwy am deithiau, gwyliau rhyngwladol ac arddangosfeydd? Sesiwn wybodaeth lle gallwch ddarganfod mwy am y gwaith mae SCG yn ei wneud i ddarparu cyfleon i arddangos eich hun dramor. I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl `Cyfleon yng Nghymru a thramor`.
Corff Casglu Cymreig - Adroddiad Cambrensis
1.30pm Galeri, Caernarfon Cyflwyniad a thrafodaeth ar Adroddiad Cambrensis, y cam diweddaraf tuag at sefydlu corff casglu Cymreig. Bydd cynrychiolydd o PRS, y corff casglu Prydeinig, yno i gynnig safbwyntiau fydd o bosib yn wahanol. I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl `Adroddiad Cambrensis`.
'Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill' - y cyfryngau yng Nghymru a'r byd
3.15pm Galeri, Caernarfon Y diweddaraf ym myd y cyfryngau, gydag arbennigwyr o radio, teledu, y we, a'r cylchgronnau yn pwyso a mesur y byd cyfnewidiol ohoni. Pa gyfryngau sy'n bwysig i'ch cerddoriaeth bellach yng Nghymru a phellach? I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl `Cyfryngau yng Nghymru`.
Gigs Morgan Lloyd / Y Castell 9pm Morgan Lloyd, Y Maes, Caernarfon Colorama / Alun Tan Lan 10pm Y Castell, Y Maes, Caernarfon Sian James / Gwilym Morus (Y ddau gig am ddim - a nid oes rhaid cofrestru i fynychu rhain)

Alun Tan Lan

Mae albym newydd Alun Tan Lan bellach wedi ei gwblhau. Bydd yr albym yn ymddangos ar label Adern Papur yn gynnar yn 2011. Mae'r albym newydd yn cynnwys deunaw o ganeuon ac fe fydd yn ymddangos ar ffurf 'gatefold'. Maen debyg mai hon fydd yr albym 'gatefold' dwbl cyntaf gan artist unigol yn y Gymraeg. Yn y cyfamser bydd Y Niwl - band arall Alun yn rhyddhau Y Niwl - yr albym newydd dydd Llun, Rhagfyr y 6ed. Bydd Y Niwl yn ymddangos ym mharti Nadolig Clwb Ifor Bach ar nos Sadwrn, Rhagfyr 11 gyda chefnogaeth gan Cowbois Rhos Botwnnog. Manylion pellach: a

Colorama
Mae gig y Morgan Lloyd (uchod) yn ran o ymgyrch y band i hyrwyddo eu halbym newydd, Box, a gafodd ei ryddhau yn Siapan ar ddechrau'r mis yma. Holl ddyddiadau'r grwp: 30 Medi Canolfan y Mileniwm, Caerdydd (acwstig) 05 Hyd Gwdih?, Caerydd (gyda Trwbador a Griff Lynch)08 Hyd Morgan Lloyd, Caernarfon (gyda Alun Tan Lan)09 Hyd Cob Records Instore 09 Hyd The Royal Oak, Betws y Coed (gyda Tacsi a Sen Segur)23 Hyd Gwyl Swn 27 Hyd Gwyl Baylit, The Wharf, Caerdydd (gyda Aneurin Karadog a Rufus Mufasa)28 Hyd Y Fuwch Goch (gyda Iwan Cowbois, H. Hawkline a Trwbador) Manylion pellach am yr albym, y gigs a newyddion Colorama ar .

Alun Battrick

Mae Alun Battrick wedi danfon trac newydd o'r enw Pethau Gwyllt i C2. Mae'r gan yn dod oddiar EP newydd Alun, Pethau Gwyllt a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Tondu Tunes o fewn yr wythnosau nesaf Pedwar trac yr EP: Pethau GwylltYfa LanFan HynGwenllian Rhyddhaodd Alun Cwsg, ei EP cyntaf y llynedd. Mae'n dweud ei fod yn gobeithio chwarae cymaint o nosweithi open-mike Caerdydd ag y mae'n gallu dros y misoedd nesaf (felly cadwch lygaid allan amdano etc) Mae'r pedwar trac ar gael i'w clywed ar MySpace Alun nawr, a bydd yr EP ar gael i'w phrynu yn ddigidol o'r mannau arferol o fewn yr wythnos nesaf. Manylion pellach:

Cyfle Cothi
Mae rhaglen newydd Radio Cymru, Cyfle Cothi, yn edrych am ymgeiswyr i fod yn ran o ymgyrch Sian Cothi i ddod o hyd i dalent newydd Cymru. Elin Fflur yw tiwtor categori Lleisydd Cerddoriaeth Bop y rhaglen:
CLIP: Elin Fflur Cyfle Cothi Mae gofyn i ymgeiswyr fod yn 16 mlwydd oed neu'n h?n ar 1 Medi 2010. Mae gofyn i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais a pharatoi enghraifft 5 munud o hyd o'u gwaith a'u gyrru at y cynhyrchwyr. Diwedd y cyfnod ymgeisio fydd 12pm ar ddydd Gwener 1 Hydref. Categoriau1. Unawd lleisiol clasurol: tiwtor - Gwyn Hughes Jones2. Unawd lleisiol Theatr Gerdd: tiwtor - Mark Evans3. Unawd offerynnol clasurol: tiwtor - Catrin Finch4. Unawd offerynnol pop/roc: tiwtor - i'w gadarnhau5. Lleisydd cerddoriaeth bop: tiwtor - Elin Fflur6. Llefaru dramatig: tiwtor - John Ogwen Am fwy o wybodaeth ffoniwch 03703 500 600 neu ewch i a chliciwch ar Cyfle Cothi.

Gig Cloc Oen - Sadwrn 2 Hydref
Mae noswaith gigs newydd yn dechrau penwythnos yma, Gig Cloc Oen. Mae'r cyntaf yn cael ei gynnal yn Clwb Rheliffordd, Bangor nos Sadwrn yma. Line-up Gig Cloc Oen: Gai TomsMr HuwThe Unknown (Un o fandiau rownd derfynol BYB C2/Mentrau Iaith Radio Cymru eleni)Tom ap DanCrash.Disco (Enillydd BYB Maes B, Esiteddfod 2010) Dechrau am 7pm 拢5 o flaen llaw/拢6 ar y drws

Gwibdaith Hen Fran / Estella ar daith i'r Basg
Mae Gwibdaith Hen Fran ac Estella yn mynd ar daith i'r Basg unwaith eto fis nesa'. Dyma Phil o Gwibdaith yn son mwy: CLIP: Phil GHF Mi fydd y ddau grwp ar daith o'r 12fed hyd at yr 22ain o fis Hydref.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.