主播大秀

Rheolau Gwobrau RAP 2012

Mae'r gwobrau yn cael eu cyfeirio atynt fel "Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2012".

Bydd y gwobrau yn cael eu rhoi ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2011 a diwedd Rhagfyr 2011.

Mae'r gwobrau yn cael eu dyfarnu gan Banel o gynrychiolwyr o'r s卯n gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

Mae'r Panel yn cynnwys un cynrychiolydd yr un o gwmn茂au recordio (sydd wedi rhyddhau albwm gan o leiaf 2 artist yn ystod y flwyddyn dan sylw), cylchgronnau sy'n rhoi sylw i'r s卯n gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru, cwmn茂au teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni cerddoriaeth gyfoes, gwefannau sy'n adlewyrchu'r s卯n gerddoriaeth gyfoes, trefnwyr cyngherddau ar lefel genedlaethol ac Undebau Myfyrywr Prifysgol Cymru. Bydd angen pleidlais o leiaf 70% o aelodau'r panel ar gyfer dilysrwydd y Gwobrau.

Bydd y Panelwyr yn derbyn rhestr o gategor茂au y maent yn cael bwrw pleidlais arnynt.

Mae pob aelod o'r Panel yn cael UN bleidlais.

Ni chaiff aelodau o'r panel bledleisio dros unrhyw gr诺p neu artist mae ganddynt gysylltiad personol agos 芒 hwy neu gysylltiad masnachol. Ni fydd cynrychiolwyr cwmniau recordio yn cael pledleisio dros artist ar eu labeli hwy. Bydd aelodau'r panel yn cadarnhau mewn ysgrifen nad oes unrhyw wrthdaro yn bodoli.

Os ydi'r pledleisiau yn gyfartal mewn unrhyw gategori bydd y panel yn pledleisio eto. Os fydd y bleidlais yn gyfartal am yr eilwaith yna bydd Golygydd Radio Cymru yn bwrw'r bleidlais derfynol.

Bydd Gwobr Sesiwn C2 yn cael ei dyfarnu gan d卯m gynhyrchu presennol C2 (llawn amser a rhan amser, 10 yn 2012) yn dilyn trafodaeth a phleidlais rhwng y cynhyrchwyr. Os ydi'r pledleisiau yn gyfartal bydd y panel yn pledleisio eto. Os fydd y bleidlais yn gyfartal am yr eilwaith yna bydd Golygydd Radio Cymru yn bwrw'r bleidlais derfynol.

Bydd Gwobr Siart C2 yn cael ei rhoi i'r gr诺p neu artist sydd wedi bod yn rhif un Siart C2 am y nifer fwyaf o wythnosau rhwng Ionawr 2011 a Rhagfyr 2011. Rhennir y wobr os yw'r cyfanswm wythnosau yn gyfartal.

Bydd y pledleisiau yn cael eu cyfrif gan gynhyrchwyr y 主播大秀 ac yn cael eu harolygu gan Is-Olygydd Radio Cymru.

Bydd y rhestrau byrion yn cael eu cyhoeddi ar nifer o raglenni Radio Cymru yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 30 Ebrill 2012. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar nifer o raglenni ar Radio Cymru yn ystod ddydd Llun Mai 7fed 2012, rhwng 8:30am a 11pm.

Bydd y rheolau uchod yn cael eu cyhoeddi ar wefan Radio Cymru.

Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw aelod o'r Panel os nad ydynt yn cadw at reolau'r Gwobrau, neu os ydynt yn ceisio dylanwadu ar aelodau eraill o'r Panel neu yn dwyn perswad ar eraill i wneud hynny.

Mae'r 主播大秀 hefyd yn cadw'r hawl i ganslo'r Gwobrau unrhyw bryd os yw hynny'n addas ym marn y 主播大秀 neu os oes amglychiadau'n codi sydd y tu hwnt i reolaeth y 主播大秀.

Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw artist neu fand o'r Gwobrau os ydynt yn ceisio dylanwadu ar y panel mewn unrhyw fodd neu yn ceisio dwyn perswad ar eraill i wneud hynny.

Bydd yr enillwyr, a'r artistiaid neu fandiau ar y rhestrau byrion, yn derbyn pecyn yn dynodi sut y gallent ddefnyddio eu teitl neu statws yn dilyn y Gwobrau. Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i dynnu'r teitl neu statws oddiar unrhyw artist neu fand os ydynt yn camddefnyddio'r teitl neu statws neu os oes posibilrwydd y bydden nhw'n dwyn anfri ar y 主播大秀.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Lisa Gwilym

Haia Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ...

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.