主播大秀

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng lawrlwytho, podledu a'r gwasanaeth 'gwrando eto'?

Mae lawrlwytho yn cyfeirio'n syml iawn at dderbyn ffeil (ffeil lun, fideo, cerddoriaeth, ayb.) o gyfrifiadur arall i'ch cyfrifiadur chi gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. Pan fo'r lawrlwytho wedi cwblhau mae'r ffeil wedi ei 'harbed' i'ch cyfrifiadur. Fel arfer mae hon yn broses y mae'n rhaid i chi ei chyflawni eich hun.

Ar y llaw arall, mae Podledu yn awtomatig, lle'r ydych yn tanysgrifio i dderbyn podlediad ac yn defnyddio meddalwedd arbennig. Mae'r feddalwedd yn chwilio'n gyson i weld a oes 'pennod' newydd ar gael. Os oes 'na mae'n lawrlwytho yn digwydd yn awtomatig, gan arbed gwaith i chi. Bydd y podlediad unwaith eto, yn cael ei arbed i'ch peiriant.

Yn y naill achos a'r llall, bydd gennych ffeil gorfforol y bydd modd i chi ei gweld ar eich peiriant. Felly, pa wahaniaeth sydd rhwng lawrlwytho, podledu a'r gwasanaeth 'gwrando eto'? Wel, nid yw'r rhaglen y byddwch yn gwrando arni trwy'r gwasanaeth 'gwrando eto' yn cael ei harbed i'ch cyfrifiadur. Yn syml, rydych yn gwrando arni ar yr un pryd y mae'r sain yn cael ei anfon gan y 主播大秀. Pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i wrando, nid oes ffeil wedi ei harbed ar eich cyfrifiadur.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.